information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Caniad Solomon 6

Merched Jerwsalem:

1Ble’r aeth dy gariad, ti’r harddaf o ferched?

Ble’r aeth e?

Gad i ni chwilio amdano gyda’n gilydd.

Y ferch:

2Mae nghariad wedi mynd i lawr i’w ardd –

i’w welyau o berlysiau.

Mae wedi mynd i bori yn y gerddi,

a chasglu’r lilïau.

3Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad;

mae e’n pori yng nghanol y lilïau.

Y bumed gerdd

Y cariad:

4F’anwylyd, rwyt ti’n hardd fel dinas Tirtsa,

ac mor hyfryd â Jerwsalem.

Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!

5Paid edrych arna i –

mae dy lygaid yn fy aflonyddu!

Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr

yn dod i lawr o fynydd Gilead.

6Mae dy ddannedd yn wyn

fel rhes o ddefaid newydd eu golchi.

Maen nhw i gyd yn berffaith;

does dim un ar goll.

7Tu ôl i’r fêl mae dy fochau

a’u gwrid fel pomgranadau.

Notes for verses 4–73 entries

Text notes

  • Song of Songs 6:4 Tirtsa Ar ôl i Solomon farw dyma lwythau’r gogledd, dan arweiniad Jeroboam, yn gwahanu oddi wrth Jwda yn y de. Tirtsa oedd prifddinas y deyrnas ogleddol am dros hanner can mlynedd – gw. 1 Brenhinoedd 14:17; 15:21,33; 16:6,8,15,23. View in passage

  • Song of Songs 6:4 Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol! Hebraeg yn aneglur. View in passage

  • Song of Songs 6:6 i gyd yn berffaith Hebraeg, “Mae gan bob un ei efaill”. View in passage

8Gallwn gael chwe deg brenhines,

wyth deg o bartneriaid,

a merched ifanc di-rif!

9Ond mae hi’n unigryw,

fy ngholomen berffaith.

Merch arbennig ei mam;

hoff un yr un â’i cenhedlodd.

Mae pob merch ifanc sy’n ei gweld

yn ei hedmygu.

Mae pob brenhines a chariad

yn canu am ei harddwch:

10“Pwy ydy hon sy’n codi fel y wawr?

Pwy ydy hi? – mor hardd â’r lleuad llawn,

mor bur â phelydrau’r haul.

Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”

Notes for verses 8–101 entry

Text notes

  • Song of Songs 6:8 bartneriaid Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. View in passage

11Es i lawr i’r berllan lle mae’r coed cnau,

i weld y tyfiant yn y dyffryn;

i weld a oedd y winwydden wedi blaguro,

a’r pomgranadau’n blodeuo.

12Rôn i wedi cynhyrfu’n lân.

Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi,

o ferch fy mhobl fonheddig.

Notes for verses 11–121 entry

Text notes

13Tyrd yma! Tyrd yma ti’r un berffaith!

Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti.

Y ferch:

Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith,

fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll?