information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Caniad Solomon 7

Y cariad:

1Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd,

o ferch fonheddig.

Mae dy gluniau mor siapus –

fel gemwaith gan grefftwr medrus.

2Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron

yn llawn o’r gwin cymysg gorau.

Mae dy fol fel pentwr o wenith

a chylch o lilïau o’i gwmpas.

3Mae dy fronnau yn berffaith

fel dwy gasél ifanc, efeilliaid.

4Mae dy wddf fel tŵr o ifori,

a’th lygaid fel llynnoedd Cheshbon

ger mynedfa Bath-rabbîm.

Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus

sy’n wynebu dinas Damascus.

5Ti’n dal dy ben yn uchel

fel Mynydd Carmel

ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud

yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.

6O, rwyt mor hardd! Mor hyfryd!

Ti’n fy hudo, fy nghariad!

7Ti’n dal fel coeden balmwydd,

a’th fronnau’n llawn fel ei sypiau o ddatys.

8Dw i am ddod a dringo’r goeden

a gafael yn ei ffrwythau.

Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin,

a’u sawr yn felys fel afalau.

9Mae dy gusanau fel y gwin gorau

yn llifo’n rhydd ar fy ngwefusau

wrth i ni fynd i gysgu.

Y ferch:

10Fy nghariad piau fi,

ac mae f’eisiau.

11Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i’r caeau;

gad i ni dreulio’r nos rhwng y blodau henna.

12Gad i ni godi’n gynnar

a mynd lawr i’r gwinllannoedd,

i weld os ydy’r winwydden wedi blaguro

a’u blodau wedi agor;

ac i weld os ydy’r pomgranadau’n blodeuo –

yno gwnaf roi fy hun i ti.

13Yno bydd persawr hyfryd y mandragorau

yn llenwi’r awyr,

a danteithion pleser wrth ein drysau –

y cwbl dw i wedi’i gadw

i’w rannu gyda ti, fy nghariad.

Notes for verses 10–131 entry

Text notes

  • Song of Songs 7:13 mandragorau neu “ffrwythau cariad”. Roedd pobl y credu fod bwyta’r ffrwyth yma yn cyffroi chwant rhywiol ac yn helpu merched i feichiogi (cf. Genesis 30:14-16). View in passage