information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Caniad Solomon 5

Y cariad:

1Dw i’n dod i’m gardd, ferch annwyl, fy nghariad –

i gasglu fy myrr a’m perlysiau,

i flasu’r diliau a’r mêl,

ac i yfed y gwin a’r llaeth.

Y gwesteion:

Mwynhewch y wledd, gariadon!

Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!

Y bedwaredd gerdd

Y ferch:

2Rôn i’n gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro.

Ust! Llais fy nghariad; mae’n curo –

Y cariad:

“Agor i mi ddod i mewn, f’anwylyd,

fy nghariad, fy ngholomen berffaith.

Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith,

a’m pen yn llaith gan niwl y nos.”

Y ferch:

3“Ond dw i’n noeth, heb ddim amdana i.

Ti am i mi wisgo eto, wyt ti?

A dw i wedi golchi fy nhraed.

Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”

Notes for verse 31 entry

Text notes

  • Song of Songs 5:3 fy nhraed Gall fod ystyr dwbl yma, gyda ‘traed’ yn cael ei ddefnyddio fel mwythair am yr organau rhywiol. Mae’n sicr yn wir am y gair ‘llaw’ yn adn. 4. View in passage

4Yna gwthiodd ei law i agor y drws,

a theimlais wefr yn mynd drwyddo i.

5Codais i’w adael i mewn;

roedd fy nwylo’n diferu o fyrr –

roedd y myrr yn llifo i lawr fy mysedd

pan afaelais yn yr handlen.

6Agorais y drws i’m cariad,

ond roedd e wedi troi a mynd!

Suddodd fy nghalon o’m mewn pan aeth.

Notes for verses 4–61 entry

Text notes

  • Song of Songs 5:4 i agor y drws Hebraeg, “drwy’r twll”. View in passage

Chwiliais amdano, ond methu ei gael;

galwais arno, ond doedd dim ateb.

7Dyma’r gwylwyr nos yn fy ngweld

wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.

Dyma nhw’n fy nghuro a’m cam-drin

a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i –

y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau’r ddinas!

8Ferched Jerwsalem, gwrandwch –

os dewch chi o hyd i’m cariad,

dwedwch wrtho mod i’n glaf o gariad.

Y merched wrth y ferch:

9O’r harddaf o ferched,

beth sy’n gwneud dy gariad

yn well na dynion eraill?

Beth sy’n gwneud dy gariad

yn well na dynion eraill,

i ti grefu mor daer â hyn?

Y ferch:

10Mae nghariad yn ffit ac yn iach;

mae’n sefyll allan yng nghanol y dyrfa.

11Mae ei wyneb a’i wedd fel aur pur,

a’i wallt cyrliog yn ddu fel y frân.

12Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr,

yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle.

13Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau,

a chusan ei wefusau fel y lili

yn diferu o fyrr.

14Mae ei freichiau cyhyrog fel aur

wedi’u haddurno â meini gwerthfawr;

a’i gorff lluniaidd fel ifori llyfn

wedi’i orchuddio â meini saffir.

15Mae ei goesau fel pileri o farmor

wedi’u gosod ar sylfaen o aur pur.

Mae e’n sefyll fel mynyddoedd Libanus

a’u coed cedrwydd urddasol.

16Mae ei gusan mor felys;

mae popeth amdano’n ddeniadol!

Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar,

ferched Jerwsalem.