information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Caniad Solomon 4

Y cariad:

1O, rwyt mor hardd, f’anwylyd!

O, rwyt mor hardd!

Mae dy lygaid fel colomennod

y tu ôl i’r fêl.

Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr

yn dod i lawr o fynydd Gilead.

2Mae dy ddannedd yn wyn

fel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a’u golchi.

Maen nhw i gyd yn berffaith;

does dim un ar goll.

3Mae dy wefusau fel edau goch,

a’th geg mor siapus.

Tu ôl i’r fêl mae dy fochau

a’u gwrid fel pomgranadau.

4Mae dy wddf fel tŵr Dafydd

a’r rhesi o gerrig o’i gwmpas;

mil o darianau yn hongian arno,

fel arfau milwyr arwrol.

Notes for verses 1–41 entry

Text notes

  • Song of Songs 4:2 i gyd yn berffaith Hebraeg, “Mae gan bob un ei efaill”. View in passage

5Mae dy fronnau yn berffaith

fel dwy gasél ifanc, efeilliaid

yn pori ymysg y lilïau.

6Rhaid i mi fynd a dringo

mynydd myrr a bryn thus,

ac aros yno hyd nes iddi wawrio

ac i gysgodion y nos ddiflannu.

7Mae popeth amdanat mor hardd, f’anwylyd!

Ti’n berffaith!

Notes for verses 5–71 entry

Cross-references

8Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad,

tyrd gyda mi o fryniau Libanus.

Tyrd i lawr o gopa Amana,

o ben Senir, sef copa Hermon.

Tyrd i lawr o ffeuau’r llewod

a lloches y llewpard.

Notes for verse 81 entry

Cross-references

9Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad.

Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad,

un em yn dy gadwyn.

10Mae dy gyffyrddiad mor hyfryd, ferch annwyl, fy nghariad.

Mae dy anwesu cariadus gymaint gwell na gwin,

ac arogl dy bersawr yn well na pherlysiau.

11Mae dy gusan yn felys, fy nghariad,

yn diferu fel diliau mêl.

Mae mêl a llaeth dan dy dafod,

ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus.

12Fy merch annwyl, fy nghariad –

rwyt fel gardd breifat dan glo,

yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni.

13Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau,

yn llawn o’r ffrwyth gorau.

Gardd bersawrus hudolus

o henna hyfryd, 14nard a saffrwn,

sbeisiau pêr a sinamon,

thus o wahanol fathau,

myrr ac aloes –

pob un o’r perlysiau drutaf.

15Ti ydy’r ffynnon yn yr ardd –

ffynnon o ddŵr glân gloyw

yn llifo i lawr bryniau Libanus.

Y ferch:

16Deffra, wynt y gogledd; tyrd, wynt y de!

Chwytha ar fy ngardd

i ledu sawr ei pherlysiau.

Tyrd i mewn i dy ardd, fy nghariad,

a gwledda ar ei ffrwyth gorau.