information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Caniad Solomon 3

1Wrth orwedd ar fy ngwely yn y nos

byddai gen i hiraeth am fy nghariad;

dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.

2“Dw i’n mynd i godi i edrych amdano yn y dre –

crwydro’r strydoedd a’r sgwariau

yn chwilio am fy nghariad.”

Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.

3Dyma’r gwylwyr nos yn fy ngweld

wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.

Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?”

4Prin rôn i wedi’u pasio

pan ddes i o hyd i’m cariad!

Gafaelais ynddo’n dynn a gwrthod ei ollwng

nes mynd ag e i dŷ fy mam,

i’w hystafell wely.

5Ferched Jerwsalem, dw i’n pledio arnoch

o flaen y gasél a’r ewig gwyllt:

Peidiwch trio cyffroi cariad rhywiol

nes mae’n barod.

Y drydedd gerdd – Y briodas

Y ferch

6Beth sy’n dod o gyfeiriad yr anialwch,

yn codi llwch fel colofnau o fwg?

Fel mwg yr arogldarth yn codi o’r allor –

myrr a thus a phob powdr persawrus

sydd ar werth gan fasnachwyr teithiol.

7Edrychwch! Soffa gludo Solomon ydy hi!

Mae chwe deg o filwyr o’i gwmpas –

arwyr dewr Israel.

8Mae gan bob un ei gleddyf yn barod,

ac maen nhw wedi’u hyfforddi i ryfela.

Mae cleddyf pob un ar ei glun

i’w amddiffyn rhag peryglon y nos.

9Mae gan Solomon gadair gludo

wedi’i gwneud o goed o Libanus.

10Mae ei pholion o arian

a’i ffrâm o aur;

ei sedd o ddefnydd porffor

a’r tu mewn wedi’i addurno â chariad.

11Ferched Jerwsalem, dewch allan!

Dewch, ferched Seion i syllu ar Solomon

yn gwisgo’r goron gafodd gan ei fam

ar ddiwrnod ei briodas –

diwrnod hapusaf ei fywyd!