information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Caniad Solomon 2

Y ferch wrth ei chariad:

1Un blodyn saffrwn ar wastatir Saron

ydw i; dim ond lili fach o’r dyffryn.

Y cariad wrth y ferch:

2F’anwylyd, o’i gymharu â merched eraill

rwyt ti fel lili yng nghanol mieri.

Y ferch wrth ei chariad:

3Fy nghariad, o’i gymharu â dynion eraill

rwyt ti fel coeden afalau

yng nghanol y goedwig.

Mae’n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod,

ac mae dy ffrwyth â’i flas mor felys.

Y ferch:

4Aeth â fi i mewn i’r gwindy

a’m gorchuddio â’i gariad.

5Helpwch fi! Adfywiwch fi

gyda ffrwythau melys ac afalau –

dw i’n glaf o gariad.

6Mae ei law chwith dan fy mhen,

a’i law dde yn fy anwesu.

7Ferched Jerwsalem, dw i’n pledio arnoch

o flaen y gasél a’r ewig gwyllt:

Peidiwch trio cyffroi cariad rhywiol

nes mae’n barod.

Yr ail gerdd – Gwefr cariad

Y ferch:

8Ust! Fy nghariad sydd yna!

Edrychwch! Dyma fe’n dod,

yn llamu dros y mynyddoedd

ac yn neidio dros y bryniau

9fel gasél neu garw ifanc.

Mae yma! Yr ochr arall i’r wal!

Mae’n edrych drwy’r ffenest

ac yn sbecian drwy’r dellt.

10Mae’n galw arna i:

“F’anwylyd, tyrd!

Gad i ni fynd, fy un hardd.

11Edrych! Mae’r gaeaf drosodd;

mae’r glaw trwm wedi hen fynd.

12Mae blodau gwyllt i’w gweld ym mhobman,

y tymor pan mae’r cread yn canu

a cŵan y durtur i’w glywed drwy’r wlad.

13Mae’r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedu

a’r blodau ar y gwinwydd yn arogli’n hyfryd.

F’anwylyd, tyrd!

Gad i ni fynd, fy un hardd.”

Y cariad:

14Fy ngholomen, rwyt o’m cyrraedd

o’r golwg yn holltau’r graig

a’r ogofâu ar y clogwyni!

Gad i mi dy weld

a chlywed dy lais;

mae sŵn dy lais mor swynol,

a’th olwg mor ddeniadol.

Y ferch:

15Daliwch lwynogod, y llwynogod bach

sydd am ddifetha gwinllannoedd –

a’n gwinllannoedd yn blodeuo.

16Fi piau nghariad, a fe piau fi;

mae e’n pori yng nghanol y lilïau.

17Tyrd, fy nghariad, hyd nes iddi wawrio

ac i gysgodion y nos ddiflannu –

bydd fel gasél neu garw ifanc

yn croesi’r hafnau rhwng y bryniau creigiog.