information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 99

Duw, y Brenin Mawr

1Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu,

felly dylai’r gwledydd grynu!

Boed i’r ddaear gyfan grynu

o flaen yr un sydd wedi’i orseddu

uwchben y cerwbiaid!

2Yr ARGLWYDD ydy’r Duw mawr yn Seion,

yr un sy’n rheoli’r holl bobloedd.

3Boed i bawb dy addoli di – y Duw mawr, rhyfeddol!

Ti ydy’r Duw sanctaidd!

4Ti ydy’r brenin cryf sy’n caru cyfiawnder!

Ti ydy’r un sydd wedi dangos beth ydy tegwch,

ac yn hybu cyfiawnder a chwarae teg yn Jacob.

5Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw!

Ymgrymwch i lawr wrth ei stôl droed.

Mae e’n sanctaidd.

Notes for verse 51 entry

Cross-references

6Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad,

a Samuel yn galw ar ei enw –

roedden nhw’n galw ar yr ARGLWYDD,

ac roedd e’n ateb.

7Siaradodd gyda nhw o’r golofn o niwl.

Roedden nhw’n ufudd i’w orchmynion,

a’r rheolau roddodd e iddyn nhw.

8O ARGLWYDD ein Duw, roeddet ti’n eu hateb nhw.

Roeddet ti’n Dduw oedd yn barod i faddau iddyn nhw,

ond roeddet ti hefyd yn eu galw i gyfrif am eu drygioni.

9Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw!

Ymgrymwch i lawr ar ei fynydd cysegredig,

achos mae’r ARGLWYDD ein Duw yn sanctaidd!