information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 98

Duw yn rheoli’r byd

Salm

1Canwch gân newydd i’r ARGLWYDD,

am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel!

Mae ei fraich gref,

wedi ennill y fuddugoliaeth iddo.

2Mae’r ARGLWYDD wedi dangos ei allu i achub!

Mae wedi dangos i’r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn.

3Mae wedi cofio’i gariad a’i ffyddlondeb i bobl Israel;

ac mae pawb drwy’r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub.

4Dewch, bawb drwy’r byd i gyd,

gwaeddwch yn uchel i’r ARGLWYDD!

Gweiddi’n llawen, a chanu mawl iddo!

5Canwch fawl ar y delyn i’r ARGLWYDD;

canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn!

6Seiniwch yr utgyrn a chwythu’r corn hwrdd.

Dewch, bawb drwy’r byd i gyd,

gwaeddwch yn uchel i’r ARGLWYDD, y Brenin!

Notes for verses 4–61 entry

Text notes

7Boed i’r môr a phopeth sydd ynddo weiddi;

a’r byd hefyd, a phawb sy’n byw ynddo.

8Boed i’r afonydd guro dwylo,

ac i’r mynyddoedd ganu’n llawen gyda’i gilydd

9o flaen yr ARGLWYDD!

Achos mae e’n dod i roi trefn ar y ddaear.

Bydd e’n barnu’r byd yn hollol deg,

a’r bobloedd yn gwbl gyfiawn.