information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 97

Duw yn teyrnasu dros bopeth

1Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu!

Gall y ddaear ddathlu,

a’r ynysoedd i gyd lawenhau!

2Mae cwmwl trwchus o’i gwmpas;

a’i orsedd wedi’i sylfaenu ar degwch a chyfiawnder.

3Mae tân yn mynd allan o’i flaen,

ac yn llosgi ei elynion ym mhobman.

4Mae ei fellt yn goleuo’r byd;

a’r ddaear yn gwingo wrth ei weld.

5Mae’r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD,

o flaen Meistr y ddaear gyfan.

6Mae’r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,

a’r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander.

7Mae’r rhai sy’n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio –

y rhai oedd mor falch o’u delwau diwerth.

Mae’r ‘duwiau’ i gyd yn plygu o’i flaen.

8Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn,

ac roedd pentrefi Jwda’n dathlu

am dy fod ti’n barnu’n deg, O ARGLWYDD.

9Achos rwyt ti, ARGLWYDD, yn Dduw dros yr holl fyd;

rwyt ti’n llawer gwell na’r holl ‘dduwiau’ eraill i gyd.

10Mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n casáu drygioni.

Mae e’n amddiffyn y rhai sy’n ffyddlon iddo,

ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.

11Mae golau’n disgleirio ar y rhai sy’n byw’n gywir,

a llawenydd ar y rhai sy’n onest.

12Chi, rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr ARGLWYDD,

a’i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!