information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 96

Duw sy’n teyrnasu dros bopeth

(1 Cronicl 16:23-33)

1Canwch gân newydd i’r ARGLWYDD.

Y ddaear gyfan, canwch i’r ARGLWYDD!

2Canwch i’r ARGLWYDD, canmolwch ei enw,

a dweud bob dydd sut mae e’n achub.

3Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;

wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud.

4Mae’r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli!

Mae’n haeddu ei barchu’n fwy na’r ‘duwiau’ eraill i gyd.

5Eilunod diwerth ydy duwiau’r holl bobloedd,

ond yr ARGLWYDD wnaeth greu’r nefoedd!

6Mae ei ysblander a’i urddas yn amlwg;

mae ei gryfder a’i harddwch yn ei deml.

7Dewch, bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch!

Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy’r ARGLWYDD!

8Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!

Dewch i’w deml i gyflwyno rhodd iddo!

9Plygwch i addoli’r ARGLWYDD

sydd mor hardd yn ei gysegr!

Crynwch o’i flaen, bawb drwy’r byd!

10Dwedwch ymysg y cenhedloedd,

“Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu!”

Felly mae’r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.

Bydd e’n barnu’r byd yn deg.

11Boed i’r nefoedd a’r ddaear ddathlu’n llawen.

Boed i’r môr a phopeth sydd ynddo weiddi.

12Boed i’r caeau a’u cnydau ddathlu.

Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen

13o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dod –

mae’n dod i roi trefn ar y ddaear.

Bydd yn barnu’r byd yn hollol deg,

a’r bobloedd i gyd ar sail beth sy’n wir.