information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 95

Cân o fawl

1Dewch, gadewch i ni ganu’n llawen i’r ARGLWYDD,

a gweiddi’n mawl i’r Graig sy’n ein hachub!

2Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch;

gweiddi’n uchel a chanu mawl iddo!

3Achos yr ARGLWYDD ydy’r Duw mawr,

y Brenin mawr sy’n uwch na’r ‘duwiau’ i gyd.

4Mae mannau dyfna’r ddaear yn ei ddwylo,

a chopaon y mynyddoedd hefyd!

5Fe sydd biau’r môr, am mai fe wnaeth ei greu;

a’r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio.

6Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo,

mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD, ein Crëwr.

7Fe ydy’n Duw ni, a ni ydy ei bobl e;

y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw.

O na fyddech chi’n gwrando arno heddiw!

8“Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba,

neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch.

9Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod,

a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i!

10Am bedwar deg mlynedd rôn i’n eu ffieiddio nhw:

‘Maen nhw’n bobl hollol anwadal,’ meddwn i;

‘dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’

11Felly digiais, a dweud ar lw,

‘Chân nhw byth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi!’”

Notes for verses 7–111 entry

Cross-references

  • Psalms 95:8 – Exodus 17:1–7 ; Numbers 20:1–13