information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 100

Emyn o fawl

Salm o ddiolch.

1Gwaeddwch yn uchel i’r ARGLWYDD

holl bobl y byd!

2Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen;

a dod o’i flaen gan ddathlu!

3Cyffeswch mai’r ARGLWYDD sydd Dduw;

fe ydy’r un a’n gwnaeth ni,

a ni ydy ei bobl e –

y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw.

4Ewch drwy’r giatiau gan ddiolch iddo,

ac i mewn i’w deml yn ei foli!

Rhowch ddiolch iddo!

A bendithio’i enw!

5Achos mae’r ARGLWYDD mor dda!

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd;

ac mae’n aros yn ffyddlon o un genhedlaeth i’r llall.