information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 101

Addewid brenin

Salm Dafydd.

1Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder.

Canaf gân i ti, O ARGLWYDD!

2Canaf delyneg am dy ffordd berffaith.

Pryd wyt ti’n mynd i ddod ata i?

Dw i wedi byw bywyd didwyll yn y palas.

3Dw i ddim am ystyried bod yn anonest;

dw i’n casáu twyll,

ac am gael dim i’w wneud â’r peth.

4Does gen i ddim meddwl mochaidd,

a dw i am gael dim i’w wneud â’r drwg.

5Dw i’n rhoi taw ar bwy bynnag sy’n enllibio’i gymydog yn y dirgel.

Alla i ddim diodde pobl falch sy’n llawn ohonyn nhw eu hunain.

6Dw i wedi edrych am y bobl ffyddlon yn y wlad,

i’w cael nhw i fyw gyda mi.

Dim ond pobl onest

sy’n cael gweithio i mi.

7Does neb sy’n twyllo

yn cael byw yn y palas.

Does neb sy’n dweud celwydd

yn cael cadw cwmni i mi.

8Dw i bob amser yn rhoi taw

ar y rhai sy’n gwneud drwg yn y wlad.

Dw i’n cael gwared â’r rhai sy’n gwneud drwg

o ddinas yr ARGLWYDD.