information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 141

Gweddi am help

Salm Dafydd.

1ARGLWYDD, dw i’n galw arnat: brysia! Helpa fi!

Gwranda arna i’n galw arnat ti.

2Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth,

a’m dwylo sydd wedi’u codi fel aberth yr hwyr.

3O ARGLWYDD, gwarchod fy ngheg

a gwylia ddrws fy ngwefusau.

4Paid gadael i mi feddwl dweud dim byd drwg,

na gwneud dim gyda dynion sydd felly!

Cadw fi rhag bwyta’u danteithion.

5Boed i rywun sy’n byw’n gywir ddod i’m taro i,

a’m ceryddu mewn cariad!

Dyna’r olew gorau – boed i’m pen beidio’i wrthod.

Dw i’n gweddïo o hyd ac o hyd yn erbyn eu drygioni.

6Pan fyddan nhw’n syrthio i ddwylo’r Graig, eu Barnwr,

byddan nhw’n gwerthfawrogi beth ddwedais i.

7Fel petai rhywun yn aredig ac yn troi’r pridd,

mae ein hesgyrn wedi’u gwasgaru wrth geg Annwn.

8Arnat ti dw i’n edrych, O ARGLWYDD, fy Meistr;

dw i’n dod atat am loches, paid a’m gadael mewn perygl!

9Cadw fi i ffwrdd o’r trapiau maen nhw wedi’u gosod,

ac oddi wrth faglau’r rhai drwg.

10Gad iddyn nhw syrthio i’w rhwydi eu hunain,

tra dw i’n llwyddo i ddianc.

Notes for verses 7–101 entry

Text notes

  • Psalms 141:7 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle mae’r meirw yn mynd”. View in passage