information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 142

Gweddi am help

Mascîl. Salm gan Dafydd, pan oedd yn yr ogof. Gweddi.

1Dw i’n gweiddi’n uchel ar yr ARGLWYDD;

dw i’n pledio ar i’r ARGLWYDD fy helpu.

2Dw i’n tywallt y cwbl sy’n fy mhoeni o’i flaen,

ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.

3Pan dw i wedi anobeithio’n llwyr,

rwyt ti’n gwylio pa ffordd dw i’n mynd.

Maen nhw wedi cuddio magl

ar y llwybr o mlaen i.

4Dw i’n edrych i’r dde –

ond does neb yn cymryd sylw ohono i.

Mae dianc yn amhosib –

does neb yn poeni amdana i.

5Dw i’n gweiddi arnat ti, ARGLWYDD;

a dweud, “Ti ydy’r unig le saff i mi fynd,

does gen i neb arall ar dir y byw!”

6Gwranda arna i’n gweiddi, dw i’n teimlo mor isel.

Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl;

maen nhw’n rhy gryf i mi.

7Gollwng fi’n rhydd o’r carchar yma,

er mwyn i mi foli dy enw di.

Bydd y rhai cyfiawn yn casglu o’m cwmpas

am dy fod ti wedi achub fy ngham.