information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 140

Gweddi ar Dduw i’m cadw’n saff

I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1Achub fi, O ARGLWYDD, rhag pobl ddrwg.

Cadw fi’n saff rhag y dynion treisiol

2sy’n cynllwynio i wneud drwg i mi,

ac yn ymosod a chreu helynt.

3Mae ganddyn nhw dafodau miniog;

maen nhw’n brathu fel nadroedd,

ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.

Saib

4O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi!

Cadw fi’n saff rhag y dynion treisiol

sydd eisiau fy maglu i.

5Mae dynion balch yn cuddio trap i mi;

pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi;

ac yn gosod maglau ar fy llwybr.

Saib

6Dwedais wrth yr ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.”

Gwranda, O ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd!

7O ARGLWYDD, Meistr, ti ydy’r un cryf sy’n achub;

ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr.

8O ARGLWYDD, paid gadael i’r rhai drwg gael eu ffordd!

Paid gadael i’w cynllwyn nhw lwyddo,

rhag iddyn nhw ymffrostio.

Saib

9Ac am y rhai sydd o’m cwmpas i –

boed i’r pethau drwg maen nhw wedi eu dweud eu llethu!

10Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw!

Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto!

11Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir.

Gad i ddrygioni’r dynion treisgar eu hela nhw a’u bwrw nhw i lawr.

12Dw i’n gwybod y bydd yr ARGLWYDD

yn gweithredu ar ran y rhai sy’n diodde.

Bydd yn sicrhau cyfiawnder i’r rhai mewn angen.

13Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di!

Bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn aros yn dy gwmni di.