information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 139

Gofal Duw amdana i

I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1O ARGLWYDD, rwyt ti’n fy archwilio i,

ac yn gwybod popeth amdana i.

2Ti’n gwybod pryd dw i’n eistedd ac yn codi;

ti’n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell.

3Ti’n cadw golwg arna i’n teithio ac yn gorffwys;

yn wir, ti’n gwybod am bopeth dw i’n wneud.

4Ti’n gwybod beth dw i’n mynd i’w ddweud

cyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD.

5Rwyt ti yna o mlaen i a’r tu ôl i mi,

mae dy law di arna i i’m hamddiffyn.

6Ti’n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi –

mae’n ddirgelwch llwyr, mae’n ormod i mi ei ddeall.

7Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd?

I ble alla i ddianc oddi wrthot ti?

8Petawn i’n mynd i fyny i’r nefoedd, rwyt ti yno;

petawn i’n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto!

9Petawn i’n hedfan i ffwrdd gyda’r wawr

ac yn mynd i fyw dros y môr,

10byddai dy law yno hefyd, i’m harwain;

byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi.

11Petawn i’n gofyn i’r tywyllwch fy nghuddio,

ac i’r golau o’m cwmpas droi’n nos,

12dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti!

Mae’r nos yn olau fel y dydd i ti;

mae goleuni a thywyllwch yr un fath!

Notes for verses 7–121 entry

Text notes

  • Psalms 139:8 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle mae’r meirw yn mynd”. View in passage

13Ti greodd fy meddwl a’m teimladau;

a’m plethu i yng nghroth fy mam.

14Dw i’n dy foli di,

am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!

Mae’r cwbl rwyt ti’n ei wneud yn anhygoel!

Ti’n fy nabod i i’r dim!

15Roeddet ti’n gweld fy ffrâm i

pan oeddwn i’n cael fy siapio yn y dirgel,

ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear.

16Roeddet ti’n fy ngweld i cyn bod siâp arna i!

Roedd hyd fy mywyd wedi’i drefnu –

pob diwrnod wedi’i gofnodi yn dy lyfr,

a hynny cyn i un fynd heibio!

17O Dduw, mae dy feddyliau di’n rhy ddwfn i mi;

mae gormod ohonyn nhw i’w deall!

18Petawn i’n ceisio’u cyfri nhw,

byddai mwy nag sydd o ronynnau tywod!

Bob tro dw i’n deffro

rwyt ti’n dal yna gyda mi!

19O Dduw, pam wnei di ddim lladd y rhai drwg,

a gwneud i’r dynion treisgar yma fynd i ffwrdd?

20Maen nhw’n dweud pethau maleisus amdanat ti.

Dy elynion di ydyn nhw! Maen nhw’n dweud celwydd!.

21O ARGLWYDD, mae’n gas gen i’r rhai sy’n dy gasáu di.

Mae’r bobl sy’n dy herio yn codi pwys arna i.

22Dw i’n eu casáu nhw â chas perffaith.

Maen nhw’n elynion i mi hefyd.

23Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl;

treiddia’n ddwfn, a deall fel dw i’n poeni.

24Edrych i weld a ydw i’n gwneud rhywbeth o’i le,

ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.