information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 131

Trystio’r ARGLWYDD

Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.

1O ARGLWYDD, dw i ddim yn berson balch

nac yn edrych i lawr ar bobl eraill.

Dw i ddim yn chwilio am enwogrwydd

nac yn gwneud pethau sy’n rhy anodd i mi.

2Dw i wedi dysgu bod yn dawel a diddig,

fel plentyn bach yn saff ym mreichiau ei fam.

Ydw, dw i’n dawel a bodlon

fel plentyn yn cael ei gario.

3O Israel, trystia’r ARGLWYDD

o hyn allan ac am byth.