information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 130

Gweddi am help

Cân yr orymdaith.

1Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ARGLWYDD,

a dw i’n galw arnat ti.

2O ARGLWYDD, gwrando ar fy nghri.

Gwranda arna i’n galw arnat ti.

Dw i’n erfyn yn daer am drugaredd!

3O ARGLWYDD, os wyt ti’n cadw golwg ar bechodau,

pa obaith sydd i unrhyw un?

4Ond rwyt ti’n barod i faddau,

ac felly mae pobl yn dy addoli di.

5Dw i’n troi at yr ARGLWYDD;

dw i’n troi ato ac yn disgwyl yn llawn gobaith.

Dw i’n trystio beth mae e’n ddweud.

6Dw i’n dyheu i’r Meistr ddod

fwy na’r gwylwyr yn disgwyl am y bore,

ie, y gwylwyr am y bore.

7O Israel, trystia’r ARGLWYDD!

Mae cariad yr ARGLWYDD mor ffyddlon,

ac mae e mor barod i’n gollwng ni’n rhydd!

8Fe ydy’r un fydd yn rhyddhau Israel

o ganlyniadau ei holl ddrygioni!