information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 129

Gweddi yn erbyn y gelynion

Cân yr orymdaith.

1“Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith

ers pan oeddwn i’n ifanc,”

gall Israel ddweud.

2“Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith

ers pan oeddwn i’n ifanc,

ond dŷn nhw ddim wedi fy nhrechu i.”

3Mae dynion wedi aredig ar fy nghefn

ac agor cwysi hir.

4Ond mae’r ARGLWYDD yn ffyddlon,

ac wedi torri’r rhaffau sy’n tynnu aradr y rhai drwg.

5Gwna i bawb sy’n casáu Seion

gael eu cywilyddio a’u gyrru yn ôl!

6Gwna nhw fel glaswellt ar ben to

yn gwywo cyn ei dynnu:

7dim digon i lenwi dwrn yr un sy’n medi,

na breichiau’r un sy’n casglu’r ysgubau!

8A fydd y rhai sy’n pasio heibio ddim yn dweud,

“Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi!

Bendith arnoch chi yn enw’r ARGLWYDD.”