information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 124

Mae’r ARGLWYDD gyda’i bobl

Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.

1Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni

– gall Israel ddweud yn glir –

2oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni

pan oedd dynion yn ymosod arnon ni,

3bydden nhw wedi’n llyncu ni’n fyw.

Roedden nhw mor ffyrnig yn ein herbyn!

4Bydden ni wedi’n llethu’n llwyr gan y dyfroedd

ac wedi boddi yn y llifogydd!

5Byddai rhuthr y dŵr wedi’n llethu.

6Bendith ar yr ARGLWYDD!

Wnaeth e ddim gadael

i’w dannedd ein rhwygo ni.

7Dŷn ni fel aderyn wedi dianc o drap yr heliwr;

torrodd y trap a dyma ni’n llwyddo i ddianc.

8Yr ARGLWYDD wnaeth ein helpu –

crëwr y nefoedd a’r ddaear.