information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 125

Mae pobl Dduw yn saff

Cân yr orymdaith.

1Mae’r rhai sy’n trystio’r ARGLWYDD

fel Mynydd Seion –

does dim posib ei symud,

mae yna bob amser.

2Fel mae Jerwsalem gyda bryniau o’i chwmpas,

mae’r ARGLWYDD yn cofleidio’i bobl

o hyn allan ac am byth.

3Fydd teyrnwialen drygioni ddim yn cael aros

ar y tir sydd wedi’i roi i’r rhai cyfiawn,

rhag i’r rhai cyfiawn droi at ddrygioni.

4Bydd yn dda, O ARGLWYDD, at y rhai da,

sef y rhai hynny sy’n byw yn iawn.

5Ond am y bobl sy’n dilyn eu ffyrdd troëdig –

boed i’r ARGLWYDD eu symud nhw o’r ffordd

gyda’r rhai sy’n gwneud drwg.

Heddwch i Israel!