information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 123

Gweddi am drugaredd

Cân yr orymdaith.

1Dw i’n edrych i fyny arnat ti

sydd wedi dy orseddu yn y nefoedd.

2Fel mae llygaid caethweision yn edrych ar law eu meistri,

neu lygaid caethforwyn yn edrych ar law ei meistres,

mae ein llygaid ni yn edrych ar yr ARGLWYDD ein Duw,

ac yn disgwyl iddo ddangos ei ffafr.

3Bydd yn garedig aton ni, O ARGLWYDD,

dangos drugaredd!

Dŷn ni wedi cael ein sarhau hen ddigon.

4Dŷn ni wedi cael llond bol ar fod

yn destun sbort i bobl hunanfodlon,

a chael ein sarhau gan rai balch.