information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 122

Canmol Jerwsalem

Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.

1Rôn i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i,

“Gadewch i ni fynd i deml yr ARGLWYDD.”

2Dyma ni’n sefyll y tu mewn i dy giatiau,

O Jerwsalem!

3Mae Jerwsalem yn ddinas wedi’i hadeiladu,

i bobl ddod at ei gilydd ynddi.

4Mae’r llwythau’n mynd ar bererindod iddi,

ie, llwythau’r ARGLWYDD.

Mae’n ddyletswydd ar bobl Israel

i roi diolch i’r ARGLWYDD.

5Dyma lle mae’r llysoedd barn yn eistedd,

llysoedd barn llywodraeth Dafydd.

6Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem:

“Boed i’r rhai sy’n dy garu di lwyddo.

7Boed heddwch y tu mewn i dy waliau,

a diogelwch o fewn dy gaerau.”

8Er mwyn fy mhobl a’m ffrindiau

dw i’n gweddïo am heddwch i ti.

9Er mwyn teml yr ARGLWYDD ein Duw,

dw i’n gofyn am lwyddiant i ti.