information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 121

Yr ARGLWYDD sy’n gofalu amdanat

Cân yr orymdaith.

1Dw i’n edrych i fyny i’r mynyddoedd.

O ble daw help i mi?

2Daw help oddi wrth yr ARGLWYDD,

yr Un wnaeth greu’r nefoedd a’r ddaear.

3Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro;

dydy’r Un sy’n gofalu amdanat ddim yn cysgu.

4Wrth gwrs! Dydy’r un sy’n gofalu am Israel

ddim yn gorffwys na chysgu!

5Yr ARGLWYDD sy’n gofalu amdanat ti;

mae’r ARGLWYDD wrth dy ochr di

yn dy amddiffyn di.

6Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd,

na’r lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos.

7Bydd yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn rhag pob perygl;

bydd yn dy gadw di’n fyw.

8Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw di’n saff

ble bynnag ei di,

o hyn allan ac am byth.