information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 120

Gweddi am help

Cân yr orymdaith.

1Yn fy argyfwng dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD

ac atebodd fi!

2“O ARGLWYDD, achub fi rhag gwefusau celwyddog,

a thafodau twyllodrus!”

3Dyma gei di ganddo

– ie, dyma fydd dy gosb –

ti, dafod twyllodrus:

4saethau miniog y milwyr

wedi’u llunio ar dân golosg!

5Dw i wedi bod mor ddigalon,

yn gorfod byw dros dro yn Meshech,

ac aros yng nghanol pebyll Cedar.

6Dw i wedi cael llond bol ar fyw

yng nghanol pobl sy’n casáu heddwch.

7Dw i’n siarad am heddwch,

ac maen nhw eisiau rhyfela!

Notes for verses 5–71 entry

Text notes

  • Psalms 120:5 Meshech … Cedar Meshech: gwlad i’r de o’r Môr Du; Cedar: llwyth o bobl oedd yn byw yn yr anialwch i’r de-ddwyrain o Israel. View in passage