Micha 5
1Ar hyn o bryd rwyt ti’n torri dy hun â chyllyll
ti ddinas dan ymosodiad!
Mae’r gelyn yn gwarchae arnon ni!
Maen nhw’n taro arweinydd Israel
ar y foch gyda theyrnwialen.
Notes for verse 12 entries
Text notes
Micah 5:1 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu’r ddinas a’i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan. View in passage
Cross-references
Micah 5:1 – Deuteronomy 14:1
Y brenin sydd i ddod
2Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata,
rwyt ti’n un o’r pentrefi
lleiaf pwysig yn Jwda.
Ond ohonot ti y daw un
fydd yn teyrnasu yn Israel –
Un sydd â’i wreiddiau yn mynd yn ôl
i’r dechrau yn y gorffennol pell.
Notes for verse 21 entry
Cross-references
Micah 5:2 – Matthew 2:6 ; John 7:42
3Felly bydd yr ARGLWYDD
yn rhoi pobl Israel i’r gelyn,
hyd nes bydd yr un sy’n cael y babi
wedi geni’r plentyn.
Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adre
at blant Israel.
4Bydd yn codi i arwain ei bobl
fel bugail yn gofalu am ei braidd.
Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDD
a gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw.
Byddan nhw yno i aros,
achos bydd e’n cael ei anrhydeddu
gan bawb i ben draw’r byd.
5Bydd e’n dod â heddwch i ni.
Hyder ffals y bobl
“Os bydd Asyria’n ymosod ar ein tir
ac yn ceisio mynd i mewn i’n plastai,
bydd digon o arweinwyr i’w rhwystro!
6Byddan nhw’n rheoli Asyria gyda’r cleddyf;
gwlad Nimrod gyda llafnau parod!
Bydd ein brenin yn ein hachub
pan fydd Asyria’n ymosod ar ein gwlad,
ac yn ceisio croesi ein ffiniau.”
Notes for verses 5–61 entry
Text notes
Micah 5:6 gwlad Nimrod enw arall ar Asyria. View in passage
Yr ARGLWYDD yn cosbi ei bobl
7Bydd pobl Jacob sydd ar ôl
ar wasgar yng nghanol y bobloedd,
fel y gwlith mae’r ARGLWYDD yn ei anfon,
neu gawodydd o law ar laswellt –
sydd ddim yn dibynnu ar bobl
na disgwyl am eu caniatâd cyn dod.
Notes for verse 71 entry
Text notes
Micah 5:7, 8 Jacob Yma mae ‘Jacob’ yn cyfeirio at Jwda, teyrnas y de. View in passage
8Bydd pobl Jacob sydd ar ôl
yn byw yn y gwledydd,
ar wasgar yng nghanol y bobloedd.
Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwyllt,
neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid –
yn rhydd i ladd a rhwygo
heb neb i’w stopio.
9Byddi’n codi dy law i daro’r rhai sy’n dy erbyn,
a dinistrio dy elynion i gyd!
Yr ARGLWYDD yn puro’i bobl
10“Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD,
“bydda i’n cael gwared â’ch arfau i gyd –
y ceffylau a’r cerbydau rhyfel.
11Bydda i’n dinistrio trefi’r wlad
ac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol.
12Bydda i’n stopio eich dewino a’ch swynion,
a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn.
13Bydda i’n dinistrio’ch delwau cerfiedig
a’ch colofnau cysegredig.
Fyddwch chi byth eto yn plygu
i addoli gwaith eich dwylo eich hunain.
14Bydda i’n diwreiddio polion y dduwies Ashera,
ac yn dinistrio’ch eilun-dduwiau.
Notes for verses 10–143 entries
Text notes
Micah 5:14 Ashera duwies ffrwythlondeb. View in passage
Cross-references
Micah 5:10 – Isaiah 31:1 ; Psalms 20:7
Micah 5:13 – Isaiah 2:8 ; Isaiah 17:7–8
15Bydda i’n dial yn wyllt
ar y gwledydd sy’n gwrthod gwrando arna i.”