Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 4

Mae dyddiau gwell i ddod

(Eseia 2:2-4)

1Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD

wedi’i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill

a’i godi’n uwch na’r bryniau.

2Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno

a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:

“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD,

a mynd i deml Duw Jacob,

iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,

ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”

Notes for verses 1–21 entry

Text notes

  • Micah 4:2 Mynydd yr ARGLWYDD Mynydd Seion, y bryn yn Jerwsalem lle roedd y deml wedi’i hadeiladu. View in passage

Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,

a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

3Bydd e’n barnu achosion rhwng y cenhedloedd

ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell.

Byddan nhw’n curo’u cleddyfau yn sychau aradr

a’u gwaywffyn yn grymanau tocio.

Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,

nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.

Notes for verses 2–32 entries

Cross-references

4Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden

a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.

Mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi addo’r peth!

5Tra mae’r gwledydd o’n cwmpas

yn dilyn eu duwiau eu hunain,

byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duw

am byth bythoedd!

Notes for verses 4–51 entry

Cross-references

Pobl Dduw yn mynd adre o’r gaethglud

6“Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD,

“bydda i’n galw’r rhai cloff,

ac yn casglu’r rhai sydd ar chwâl,

a’r rhai wnes i eu hanafu.

7Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl;

a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi’n genedl gref.

Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhw

ar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!”

8A byddi di – y tŵr i wylio’r praidd,

sef dinas gaerog pobl Seion –

yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl.

Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem.

9Ond nawr, pam wyt ti’n gweiddi a sgrechian?

Oes gen ti ddim brenin i dy helpu?

Ydy dy arweinydd doeth di wedi marw?

Ai dyna pam ti’n gwingo mewn poen

fel gwraig ar fin cael babi?

10Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion,

fel gwraig mewn poen wrth gael babi!

Bydd rhaid i chi adael y ddinas

a gwersylla yng nghefn gwlad,

ar eich ffordd i Babilon.

Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub,

a’ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn.

11Ar hyn o bryd mae gwledydd lawer

wedi casglu i ymladd yn dy erbyn.

“Rhaid dinistrio Jerwsalem,” medden nhw.

“Cawn ddathlu wrth weld Seion yn syrthio!”

12Ond dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy bwriad yr ARGLWYDD!

Dŷn nhw ddim yn deall ei gynllun e –

i’w casglu nhw fel gwenith i’r llawr dyrnu!

13Tyrd i ddyrnu, ferch Seion!

Dw i’n mynd i roi cyrn o haearn

a charnau o bres i ti;

a byddi’n sathru llawer o wledydd.

Byddi’n rhoi’r ysbail i gyd i’r ARGLWYDD,

ac yn cyflwyno eu cyfoeth i Feistr y ddaear gyfan.