Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 3

Arweinwyr Jwda ar fai

1Yna dwedais,

“Gwrandwch, arweinwyr Jacob,

chi sy’n arwain pobl Israel.

Dylech wybod beth ydy cyfiawnder!

2Ond dych chi’n casáu’r da

ac yn caru’r drwg!

Dych chi’n blingo fy mhobl yn fyw,

ac yn ymddwyn fel canibaliaid!

3Dych chi’n bwyta cnawd fy mhobl,

yn eu blingo nhw’n fyw

a malu eu hesgyrn.

Torri eu cyrff yn ddarnau

fel cig i’w daflu i’r crochan.”

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

  • Micah 3:1, 8 Israel Yma mae ‘Jacob’ ac ‘Israel’ yn cyfeirio at Jwda, teyrnas y de. View in passage

4Ryw ddydd byddan nhw’n galw ar yr ARGLWYDD am help,

ond fydd e ddim yn ateb.

Bydd e’n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny

am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.

Yn erbyn y proffwydi

5Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi:

“Dych chi’n camarwain fy mhobl!

Dych chi’n addo heddwch am bryd o fwyd,

ond os na gewch chi’ch talu

dych chi’n bygwth rhyfel!

6Felly bydd hi’n nos arnoch chi, heb weledigaeth –

byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim.

Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi,

a’ch dydd wedi dod i ben!

7Bydd cywilydd ar y proffwydi,

a bydd y dewiniaid wedi drysu.

Fyddan nhw’n dweud dim,

am fod Duw ddim yn ateb.”

8Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawn

o nerth Ysbryd yr ARGLWYDD

ac yn credu’n gryf mewn cyfiawnder.

Dw i’n herio Jacob am ei wrthryfel,

ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod.

Yn erbyn y sefydliad

9Gwrandwch, arweinwyr Jacob,

chi sy’n arwain pobl Israel –

chi sy’n casáu cyfiawnder

ac yn gwyrdroi’r gwir.

10Dych chi’n adeiladu Seion drwy drais,

a Jerwsalem drwy lygredd a thwyll.

11Mae’r barnwyr yn derbyn breib,

yr offeiriaid yn dysgu am elw,

a’r proffwydi’n dehongli am dâl –

tra’n honni pwyso ar yr ARGLWYDD!

“Mae’r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw.

“Does wir ddim dinistr i ddod!”

Notes for verses 9–111 entry

Cross-references

  • Micah 3:11 – Deuteronomy 16:19 ; Proverbs 17:23

12Felly chi sydd ar fai!

Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae,

a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig.

Bydd y bryn ble mae’r deml yn sefyll

yn goedwig wedi tyfu’n wyllt.

Notes for verse 122 entries

Cross-references