Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 2

Bydd Duw yn cosbi’r rhai sy’n sathru’r tlawd

1Gwae nhw, y rhai sy’n dyfeisio drygioni

a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio.

Wedyn codi gyda’r wawr i wneud y drwg –

maen nhw’n gwneud beth maen nhw eisiau.

2Maen nhw’n cymryd y tir maen nhw’i eisiau,

ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl.

Maen nhw’n cipio cartrefi drwy dwyll a thrais

ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.

Notes for verses 1–21 entry

Cross-references

3Felly, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Dw i’n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma.

Fydd dim modd i chi ddianc!

Dim mwy o swancio i chi! –

mae pethau’n mynd i fod yn ddrwg!

4Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi

drwy ganu galarnad i chi’n sbeitlyd –

‘Mae ar ben arnon ni!

Mae ein tir yn cael ei werthu!

Mae Duw wedi cymryd y cwbl,

a rhoi’n tir i fradwyr!’”

5Felly fydd neb yn mesur y tir eto

i chi gael siâr ohono

gyda phobl yr ARGLWYDD.

6“Stopia falu awyr!” medden nhw’n lloerig.

“Ddylai neb siarad fel yna!

Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”

7Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? –

“Dydy’r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer.

Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!”

“Mae’r pethau da dw i’n eu haddo yn digwydd

i’r rhai sy’n byw yn iawn.

8Ond yn ddiweddar mae fy mhobl

wedi codi yn fy erbyn fel gelyn.

Dych chi’n dwyn y gôt a’r crys

oddi ar bobl ddiniwed sy’n pasio heibio

fel milwyr yn dod adre o ryfel.

9Dych chi’n gyrru gweddwon o’u cartrefi clyd,

a dwyn eu heiddo oddi ar eu plant am byth.

Notes for verses 7–91 entry

Text notes

  • Micah 2:9 eu heiddo Hebraeg, “fy ngogoniant”. Mae’n cyfeirio at yr etifeddiaeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i rhoi i’w bobl. View in passage

10Felly symudwch! I ffwrdd â chi!

Does dim lle i chi orffwys yma!

Dych chi wedi llygru’r lle,

ac wedi’i ddifetha’n llwyr!

11Petai rhywun yn dod heibio

yn malu awyr a thwyllo,

‘Dw i’n addo y cewch chi joio

digonedd o win a chwrw!’ –

byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!

Nodyn o obaith

12Bydda i’n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob.

Bydda i’n galw pawb sydd ar ôl yn Israel

at ei gilydd fel defaid mewn corlan.

Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa

yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.

Notes for verse 121 entry

Text notes

  • Micah 2:12 Israel Yma mae ‘Jacob’ ac ‘Israel’ yn cyfeirio at Jwda, teyrnas y de. View in passage

13Bydd yr un sy’n torri trwodd

yn eu harwain nhw allan i ryddid.

Byddan nhw’n mynd allan drwy’r giatiau

a gadael gyda’u brenin ar y blaen.

Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn eu harwain!”