Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 1

1Dyma’r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem.

Notes for verse 13 entries

Text notes

  • Micah 1:1 Moresheth Pentref neu dref fach yn ne-orllewin Jwda, wrth ymyl Gath – gw. adn. 14. View in passage

  • Micah 1:1 Samaria a Jerwsalem Samaria oedd prifddinas teyrnas y gogledd (Israel), a Jerwsalem oedd prifddinas teyrnas y de (Jwda). View in passage

Cross-references

  • Micah 1:1 – a 2 Kings 15:32–38 ; 2 Chronicles 27:1–7 ; b 2 Kings 16:1–20 ; 2 Chronicles 28:1–27 ; c 2 Brenhinoedd 18:1–20:21; 2 Cronicl 29:1–32:33

Dinistrio Samaria yn rhybudd i Jerwsalem

2Gwrandwch, chi bobl i gyd!

Cymrwch sylw, bawb sy’n byw drwy’r byd!

Mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn;

mae’n eich cyhuddo chi o’i deml sanctaidd.

3Edrychwch! Mae’r ARGLWYDD yn dod!

Mae’n dod i lawr ac yn sathru’r mynyddoedd!

4Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed,

a’r dyffrynnoedd yn hollti.

Bydd y creigiau’n toddi fel cwyr mewn tân,

ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau.

5Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela,

a phobl Israel wedi pechu.

Sut mae Jacob wedi gwrthryfela?

Samaria ydy’r drwg!

Ble mae allorau paganaidd Jwda?

Yn Jerwsalem!

6“Dw i’n mynd i droi Samaria

yn bentwr o gerrig mewn cae agored –

bydd yn lle i blannu gwinllannoedd!

Dw i’n mynd i hyrddio ei waliau i’r dyffryn

a gadael dim ond sylfeini’n y golwg.

7Bydd ei delwau’n cael eu dryllio,

ei thâl am buteinio yn llosgi’n y tân,

a’r eilunod metel yn bentwr o sgrap!

Casglodd nhw gyda’i thâl am buteinio,

a byddan nhw’n troi’n dâl i buteiniaid eto.”

Notes for verses 6–71 entry

Text notes

  • Micah 1:7 tâl am buteinio Yn y temlau paganaidd, roedd dynion yn cael rhyw gyda phuteiniaid fel rhan o’r addoliad. View in passage

8Dyna pam dw i’n galaru a nadu,

a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau;

yn udo’n uchel fel siacaliaid,

a sgrechian cwyno fel cywion estrys.

9Fydd salwch Samaria ddim yn gwella!

Mae wedi lledu i Jwda –

mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl

yn Jerwsalem wedi dal y clefyd!

Mae’r gelyn ar ei ffordd

10‘Peidiwch dweud am y peth yn Gath!’

Peidiwch crio rhag iddyn nhw’ch clywed chi!

Bydd pobl Beth-leaffra yn rholio yn y llwch.

11Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio

yn noeth ac mewn cywilydd.

Bydd pobl Saänan yn methu symud,

a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru –

fydd hi ddim yn dy helpu eto.

12Bydd pobl Maroth yn aflonydd

wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd

na’r difrod mae’r ARGLWYDD wedi’i anfon,

ac sy’n gwasgu ar giatiau Jerwsalem.

Notes for verses 10–123 entries

Text notes

  • Micah 1:10 Gath Un o drefi’r Philistiaid. Mae’r llinell yma yn dyfynnu llinell o gân Dafydd er cof am Saul a Jonathan ar ôl iddyn nhw gael eu lladd gan y Philistiaid mewn brwydr ar Fynydd Gilboa – 2 Samuel 1:20. View in passage

  • Micah 1:10 Beth-leaffra Mae Beth-leaffra yn swnio fel yr Hebraeg am “Tŷ’r Llwch”. View in passage

  • Micah 1:12 Maroth Mae Maroth yn swnio fel yr Hebraeg am “pethau chwerw”. View in passage

13Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau,

bobl Lachish!

Chi wnaeth wrthryfela fel Israel

ac arwain pobl Seion i bechu!

14Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél

wrth Moresheth-gath,

a bydd tai Achsib yn siomi –

bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel.

15Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref,

a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto.

Notes for verses 13–155 entries

Text notes

  • Micah 1:13 Lachish Y dref fwyaf yn ne Jwda, tua 30 milltir i’r de-orllewin o Jerwsalem. View in passage

  • Micah 1:13 chi … bechu Yn Hebraeg mae “Lachish” yn swnio fel “tîm o geffylau (sy’n tynnu cerbyd rhyfel)” Falle fod Lachish yn symbol o’r ffaith fod pobl yn trystio grym milwrol yn lle trystio’r ARGLWYDD. Neu falle fod addoli eilunod a syniadau paganaidd wedi dod i’r wlad o’r Aifft drwy Lachish. View in passage

  • Micah 1:14 Achsib Ystyr Achsib ydy ‘twyllodrus’ neu ‘siomedig’. Heb fod yn bell o Ogof Adwlam (adn. 15), ble cuddiodd Dafydd oddi wrth y Brenin Saul (gw. 1 Samuel 22:1,2). Bydd pobl Israel yn ceisio dianc am eu bywydau, ond gobaith gwag fydd hynny (gw. adn. 15). View in passage

  • Micah 1:15 Maresha Mae’n swnio’n debyg i’r gair Hebraeg am ‘concwerwr’. Roedd Maresha ychydig filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Lachish. Roedd y ddwy yn gaerau amddiffynnol ers cyfnod Rehoboam (gw. 2 Cronicl 11:5-10). View in passage

  • Micah 1:15 ogof Adwlam gw. y nodyn ar 1:14. View in passage

16Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaru

am y plant rwyt ti’n dotio atyn nhw.

Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur,

am fod y gelyn yn mynd i’w cymryd nhw’n gaeth.