Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Micha 6

Yr ARGLWYDD yn cyhuddo’i bobl

1Gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Codwch i amddiffyn eich hunain

o flaen y bryniau a’r mynyddoedd!

2Chi fynyddoedd a sylfeini’r ddaear

gwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.”

(Mae’n dwyn achos yn erbyn ei bobl.

Mae ganddo ddadl i’w setlo gydag Israel.)

3“Fy mhobl, beth wnes i o’i le?

Beth wnes i i’ch diflasu chi? Atebwch!

4Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,

a’ch rhyddhau o fod yn gaethweision.

Anfonais Moses i’ch arwain,

ac Aaron a Miriam gydag e.

5Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud,

a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb.

Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal –

i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi’ch trin yn deg.”

Notes for verses 3–53 entries

Text notes

  • Micah 6:5 Sittim a Gilgal Sittim oedd gwersyll Israel ar ôl y profiad gyda Balaam, i’r dwyrain o afon Iorddonen (gw. Numeri 25:1; Josua 2:1; 3:1); Gilgal oedd gwersyll Israel pan oedden nhw’n paratoi i ymosod ar Jericho, i’r gorllewin o afon Iorddonen (gw. Josua 4:19–5:12). View in passage

Cross-references

  • Micah 6:4 – a Exodus 12:50 ,Exodus 12:51 ; b Exodus 4:10–16 ; c Exodus 15:20

  • Micah 6:5 – a Numeri 22:2–24:25; b Josua 3:1–4:19

Beth ddylai ymateb y bobl fod?

6Sut alla i dalu i’r ARGLWYDD?

Beth sydd gen i i’w gynnig wrth blygu

i addoli y Duw mawr?

Ydy aberthau i’w llosgi yn ddigon?

Y lloi gorau i’w llosgi’n llwyr?

Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio,

neu afonydd diddiwedd o olew olewydd?

7Ddylwn i aberthu fy mab hynaf

yn dâl am wrthryfela? –

rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod?

8Na, mae’r ARGLWYDD wedi dweud beth sy’n dda,

a beth mae e eisiau gen ti:

Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,

a byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.

Notes for verses 6–81 entry

Text notes

  • Micah 6:6 lloi gorau Hebraeg, “lloi blwydd oed”, gw. Lefiticus 9:3. View in passage

Bydd yr ARGLWYDD yn cosbi’r arweinwyr

9“Gwrandwch!” Mae’r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem –

(Mae’n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.)

“Gwrandwch lwyth Jwda a’r rhai sy’n casglu yn y ddinas!

10Ydw i’n mynd i anwybyddu’r trysorau a gawsoch drwy dwyll,

a’r mesur prin, sy’n felltith?

11Fyddai’n iawn i mi oddef y clorian sy’n dweud celwydd,

a’r bag o bwysau ysgafn?

12Mae’r cyfoethog yn treisio’r tlawd,

a’r bobl i gyd yn dweud celwydd –

twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw!

Notes for verses 9–121 entry

Text notes

  • Micah 6:11 6:10,11 mesur prin … bwysau ysgafn Roedd y Gyfraith roddodd Duw yn galw am gyfiawnder a thegwch – gw. Lefiticus 19:35,36; Deuteronomium 25:13-16. View in passage

13Dw i’n mynd i’ch taro a’ch anafu’n ddifrifol,

cewch eich dinistrio am bechu.

14Byddwch yn bwyta,

ond byth yn cael digon.

Bydd eich plentyn yn marw’n y groth,

cyn cael ei eni;

a bydda i’n gadael i’r cleddyf ladd

y rhai sy’n cael eu geni!

15Byddwch yn plannu cnydau

ond byth yn medi’r cynhaeaf.

Byddwch yn gwasgu’r olewydd

ond gewch chi ddim defnyddio’r olew.

Byddwch yn sathru’r grawnwin,

ond gewch chi ddim yfed y gwin.

Notes for verses 13–152 entries

Cross-references

  • Micah 6:14 – Leviticus 26:26

  • Micah 6:15 – Deuteronomy 28:39 ,Deuteronomy 28:40

16Dych chi’n cadw deddfau drwg y Brenin Omri,

ac efelychu arferion drwg y Brenin Ahab! –

a dilyn eu polisïau pwdr.

Felly bydd rhaid i mi eich dinistrio chi,

a bydd pobl yn eich gwawdio

ac yn gwneud sbort am eich pen.”

Notes for verse 162 entries

Text notes

  • Micah 6:16 Omri … Ahab Brenhinoedd teyrnas Israel yn y gogledd ganrif a hanner ynghynt. Roedd y Brenin Ahab yn fab i’r brenin Omri ac wedi priodi Jesebel. Bron ddwy ganrif cyn amser Micha, roedd y proffwyd Elias wedi bod yn herio’r addoliad paganaidd oedd yn digwydd yn amser Ahab (gw. 1 Brenhinoedd 16:21-34; 18:1-18; 21:1-26). View in passage

Cross-references

  • Micah 6:16 – a 1 Kings 16:23–28 ; b 1 Kings 16:29–34 ; 1 Kings 21:25 ,1 Kings 21:26