information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 7

Eseia’n cynnig gobaith i’r Brenin Ahas

1Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel) yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i’w gorchfygu hi.

Notes for verse 11 entry

Cross-references

  • Isaiah 7:1 – 2 Kings 16:5 ; 2 Chronicles 28:5–6

2Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim mewn cynghrair, roedd y brenin a’r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt. 3Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy’n dod o’r gronfa uchaf, ar ffordd Maes y Golchwr. 4Dwed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a’r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio – dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’ 5Mae’r Syriaid – hefo Effraim a mab Remaleia – wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud, 6‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a’i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’

Notes for verses 2–62 entries

Text notes

  • Isaiah 7:2 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

  • Isaiah 7:3 Shear-iashŵf Ystyr yr enw ydy “Ychydig fydd yn dod yn ôl” (gw. 10:20-22). View in passage

7“Ond dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:

Fydd y cynllun ddim yn llwyddo,

Fydd y peth ddim yn digwydd.

8-9Damascus ydy prifddinas Syria,

a Resin ydy pennaeth Damascus.

Samaria ydy prifddinas Effraim,

a Remaleia ydy pennaeth Samaria.

Mewn llai na chwe deg pum mlynedd

bydd Effraim wedi chwalu a pheidio â bod yn bobl.

Os na wnewch chi gredu,

wnewch chi’n sicr ddim sefyll.”

10Dyma’r ARGLWYDD yn siarad gydag Ahas eto: 11“Gofyn i’r ARGLWYDD dy Dduw roi arwydd i ti – unrhyw beth, does dim ffiniau.” 12Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi’r ARGLWYDD ar brawf.” 13Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy e ddim yn ddigon eich bod chi’n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd? 14Felly, mae’r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel. 15Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl. 16Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin rwyt ti’n eu hofni wedi’i adael yn wag. 17Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd drwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim wrthryfela yn erbyn Jwda – bydd yn dod â brenin Asyria yma.”

Notes for verses 10–173 entries

Text notes

  • Isaiah 7:14 Emaniwel Ystyr yr enw Hebraeg ydy “Mae Duw gyda ni”. View in passage

  • Isaiah 7:17 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

Cross-references

18Bryd hynny,

bydd yr ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybed

sydd yn afonydd pell yr Aifft

a’r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.

19Byddan nhw’n dod ac yn glanio

yn y cymoedd cul, serth

a’r hafnau sydd yn y creigiau,

yn y llwyni drain

a’r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.

20Bryd hynny,

bydd y Meistr yn defnyddio’r rasel

mae wedi’i llogi yr ochr draw i afon Ewffrates

(sef brenin Asyria)

i siafio’r pen a’r blew ar y rhannau preifat;

a bydd yn siafio’r farf hefyd.

21Bryd hynny,

bydd dyn yn cadw heffer a dwy afr.

22Byddan nhw’n rhoi digon o laeth

iddo fwyta caws colfran.

Caws colfran a mêl fydd bwyd

pawb sydd ar ôl yn y wlad.

23Bryd hynny,

bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd

(oedd yn werth mil o ddarnau arian)

yn anialwch o ddrain a mieri.

24Dim ond gyda bwa saeth fydd dynion yn mynd yno,

am fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri.

25Fydd neb yn mynd i’r bryniau

i drin y tir gyda chaib

am fod cymaint o ddrain a mieri.

Yn lle hynny bydd yn dir agored

i wartheg a defaid bori arno.