information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 8

Rhybudd a gobaith

1Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno’n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’.” 2Dyma fi’n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia. 3Wedyn dyma fi’n gorwedd gyda’m gwraig a dyma hi’n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe’n Maher-shalal-has-bas, 4achos cyn i’r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.”

Notes for verses 1–42 entries

Text notes

  • Isaiah 8:1 Maher-shalal-has-bas Ystyr yr enw Hebraeg ydy “difrod sydyn, ysbeilio cyflym”. View in passage

  • Isaiah 8:3 Hebraeg, “gyda’r broffwydes”. View in passage

Mae Asyria’n dod

5A dyma’r ARGLWYDD yn siarad gyda mi eto:

6“Mae’r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa,

sy’n llifo’n dawel,

ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.

7Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf

yr Ewffrates lifo drostyn nhw –

sef brenin Asyria a’i fyddin.

Bydd fel afon yn torri allan o’i sianelau,

ac yn gorlifo’i glannau.

8Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogydd

ac yn codi at y gwddf.

Notes for verses 6–81 entry

Text notes

  • Isaiah 8:6 dŵr Siloa Nant oedd yn llifo o ffynnon ar ochr ddwyreiniol Jerwsalem. View in passage

Mae ei adenydd wedi’u lledu

dros dy dir i gyd, Emaniwel!”

9Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio!

Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw’r byd:

paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio;

paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio!

10Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu!

Cytunwch beth i’w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo.

Achos mae Duw gyda ni!

Yr ARGLWYDD yn annog Eseia

11Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai’n gafael ynof fi a’m rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â’r bobl yma:

12“Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’

bob tro mae’r bobl yma’n dweud fod cynllwyn!

Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn

beth maen nhw’n ei ofni.

13Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy’r un i’w barchu!

Fe ydy’r unig un i’w ofni,

a dychryn rhagddo!

14Bydd e’n gysegr –

ond i ddau deulu brenhinol Israel

bydd yn garreg sy’n baglu pobl

a chraig sy’n gwneud iddyn nhw syrthio.

Bydd fel trap neu fagl

i’r rhai sy’n byw yn Jerwsalem.

15Bydd llawer yn baglu,

yn syrthio ac yn cael eu dryllio;

ac eraill yn cael eu rhwymo a’u dal.”

Tystiolaeth Eseia

16Bydd y rhybudd yma’n cael ei rwymo, a’r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a’i chadw gan fy nisgyblion i. 17Dw i’n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i’n ei drystio fe! 18Dyma fi, a’r plant mae’r ARGLWYDD wedi’u rhoi i mi. Maen nhw’n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD hollbwerus, sy’n byw ar Fynydd Seion.

19Bydd pobl yn dweud wrthoch chi,

“Ewch i holi’r swynwyr a’r dewiniaid

sy’n sgrechian a griddfan.

Oni ddylai pobl geisio’u ‘duwiau’ –

holi’r meirw ar ran y byw?”

20“At y gyfraith a’r dystiolaeth!

Os nad ydyn nhw’n siarad yn gyson â’r neges yma,

maen nhw yn y tywyllwch.”

21Maen nhw’n cerdded o gwmpas

mewn eisiau a newyn.

Am eu bod yn llwgu byddan nhw’n gwylltio

ac yn melltithio’u brenin a’u ‘duwiau’,

wrth edrych i fyny.

22Wrth edrych ar y tir

does dim i’w weld ond trwbwl a thywyllwch,

düwch a gwewyr meddwl –

bydd wedi’i daflu i dywyllwch dudew.