information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Eseia 6

Eseia’n gweld yr ARGLWYDD yn y deml

1Yn y flwyddyn y buodd y Brenin Wseia farw, gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi’r deml. 2Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio’i wyneb, dwy i guddio’i goesau, a dwy i hedfan. 3Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud,

Notes for verses 1–33 entries

Text notes

  • Isaiah 6:1 y flwyddyn y buodd y Brenin Wseia farw 742 CC mae’n debyg. View in passage

  • Isaiah 6:2 seraffiaid Ystyr seraff ydy “un sy’n llosgi”. View in passage

Cross-references

  • Isaiah 6:1 – 2 Kings 15:7 ; 2 Chronicles 26:23

“Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd

ydy’r ARGLWYDD hollbwerus!

Mae ei ysblander yn llenwi’r ddaear gyfan!”

4Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a’r neuadd yn llenwi gyda mwg.

5Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i’n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda’m llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.” 6Yna dyma un o’r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi’i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel. 7Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a thalwyd iawn am dy bechod.”

8Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i’n mynd i’w anfon? Pwy sy’n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi’n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” 9Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma:

‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall;

edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’

10Gwna nhw’n ystyfnig,

tro eu clustiau’n fyddar,

a chau eu llygaid –

rhag iddyn nhw weld â’u llygaid,

clywed â’u clustiau,

deall go iawn,

a throi a chael eu hiacháu.”

11Dyma fi’n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe’n ateb:

“Nes bydd trefi wedi’u dinistrio

a neb yn byw ynddyn nhw:

tai heb bobl ynddyn nhw,

a’r tir wedi’i ddifetha a’i adael yn ddiffaith.”

12Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru’r boblogaeth i ffwrdd –

a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy’r wlad.

13Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl,

fydd honno eto’n cael ei llosgi?

“Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi’i thorri i lawr,

a dim ond boncyff ar ôl.

Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd,

fel had sanctaidd.”