Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 5

Bydd Israel a Jwda’n cael eu barnu

1Gwrandwch, chi offeiriaid!

Daliwch sylw, bobl Israel!

Clywch, chi’r teulu brenhinol!

Mae’r farn ar fin dod arnoch!

Dych chi wedi bod fel trap i bobl Mitspa,

a rhwyd i ddal pobl Tabor;

2yn wrthryfelwyr wedi achosi lladdfa ddifrifol,

a bydda i’n eich cosbi chi i gyd.

3Dw i’n gwybod yn iawn am Effraim.

Dydy Israel ddim yn gallu cuddio oddi wrtho i!

Rwyt ti Effraim wedi troi at buteinio –

mae Israel wedi’i llygru’n llwyr.

4Mae eu drygioni’n eu rhwystro

rhag troi yn ôl at eu Duw.

Mae puteindra ysbrydol wedi’u meddiannu,

a dŷn nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.

5Mae balchder Israel yn tystio yn ei herbyn.

Notes for verses 3–51 entry

Text notes

  • Hosea 5:3 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

Bydd Israel ac Effraim yn syrthio o achos eu drygioni.

A bydd Jwda, hefyd, yn syrthio gyda nhw.

6Wedyn, byddan nhw’n mynd at yr ARGLWYDD

gyda’i defaid a’u geifr a’u bustych.

Ond bydd yn rhy hwyr! Bydd e wedi’u gadael nhw.

7Maen nhw wedi bradychu’r ARGLWYDD

ac maen nhw wedi cael plant siawns.

Yn fuan iawn, ar ŵyl y lleuad newydd,

byddan nhw a’u tir yn cael eu difa.

Rhybudd fod y farn yn dod

8Chwythwch y corn hwrdd yn Gibea!

Canwch utgorn yn Rama!

Rhybuddiwch bobl Beth-afen!

Ti fydd gyntaf, Benjamin!

9Bydd Effraim yn cael ei dinistrio ar ddydd y cosbi!

Mae beth dw i’n ddweud wrth lwythau Israel

yn mynd i ddigwydd.

Notes for verses 8–92 entries

Text notes

  • Hosea 5:8 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. View in passage

  • Hosea 5:8 Beth-afen gw. y nodyn ar 4:15. Mae Gibea tua 5 milltir i’r gogledd o Jerwsalem, Rama tua 8 milltir, a Bethel tua 11 milltir. View in passage

10Mae arweinwyr Jwda fel rhai sy’n symud terfyn i ddwyn tir;

a bydda i’n tywallt fy llid arnyn nhw fel llifogydd!

11Bydd Effraim yn cael ei orthrymu,

a’i sathru pan fydda i’n barnu;

am ei fod wedi penderfynu dilyn eilunod diwerth.

Notes for verses 10–112 entries

Text notes

  • Hosea 5:11 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

Cross-references

12Bydda i fel gwyfyn yn difa Effraim,

fel pydredd i bobl Jwda.

13Pan welodd Effraim ei fod yn sâl,

a Jwda’n gweld ei ddolur,

dyma Effraim yn troi at Asyria

am help gan ‘y brenin mawr’.

Ond dydy e ddim yn gallu dy helpu.

Fydd e ddim yn gwella dy glwyf!

14Fi sy’n ymosod ar Effraim a Jwda,

fel llew yn rhwygo’i ysglyfaeth.

Fi – ie, fi! Bydda i’n eu rhwygo nhw’n ddarnau

a’u cario nhw i ffwrdd.

Fydd neb yn gallu eu helpu.

15Bydda i’n mynd yn ôl i’m ffau

nes byddan nhw’n cyfaddef eu bai.

Wedyn, byddan nhw’n chwilio amdana i;

yn eu helbul, byddan nhw’n chwilio’n daer amdana i: