Hosea 6
Y bobl yn esgus troi at Dduw
1“Dewch! Gadewch i ni droi’n ôl at yr ARGLWYDD.
Fe sydd wedi’n rhwygo’n ddarnau, ond bydd e’n iacháu!
Fe sydd wedi’n hanafu ni, ond bydd e’n gwella’r briwiau!
2Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig;
bydd wedi’n codi ni’n ôl yn fyw mewn dim o dro.
Cawn fyw yn ei gwmni, 3a’i nabod yn iawn.
Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD.
Bydd yn dod allan i’n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri.
Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio’r tir.”
Notes for verses 1–31 entry
Text notes
Hosea 6:2 mewn ychydig Hebraeg, “ar ôl deuddydd”; mewn dim o dro Hebraeg, “ar y trydydd dydd”. View in passage
4O, beth wna i gyda chi, bobl Effraim?
Beth wna i gyda chi, bobl Jwda?
Mae eich ffyddlondeb fel tarth y bore,
neu’r gwlith sy’n diflannu’n gynnar.
5Dyna pam dw i wedi anfon y proffwydi i’ch taro.
Dw i’n mynd i’ch lladd chi fel y dwedais wrth gyhoeddi barn.
Mae’r farn yn siŵr o ddod, fel golau’r wawr.
Notes for verses 4–51 entry
Text notes
Hosea 6:4 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage
6Ffyddlondeb sy’n fy mhlesio, nid aberthau!
Nabod Duw, nid dim ond offrwm i’w losgi.
7Maen nhw wedi sathru fy ymrwymiad fel Adda!
Maen nhw wedi fy mradychu i!
8Mae Gilead yn dref o bobl ddrwg,
ac mae olion traed gwaedlyd yn staen ar ei strydoedd.
9Mae’r urdd o offeiriaid fel gang o ladron,
yn cuddio i ymosod ar bobl –
yn llofruddio ar y ffordd i Sichem.
Maen nhw’n gwneud cymaint o ddrwg!
Notes for verses 6–91 entry
Cross-references
Hosea 6:6 – Matthew 9:13 ; Matthew 12:7
10Dw i wedi gweld pobl Israel
yn gwneud pethau cwbl ffiaidd!
Mae Effraim yn puteinio –
mae Israel wedi’i llygru’n llwyr!
Petai Israel yn troi cefn ar ei phechod
11Mae cynhaeaf barn yn dod i tithau, Jwda!
Dw i eisiau i’m pobl lwyddo eto;