Hosea 4
Israel anffyddlon
1Bobl Israel, gwrandwch ar y neges sydd gan yr ARGLWYDD i chi! Mae’r ARGLWYDD yn dwyn achos yn erbyn pobl y wlad. Does yna neb sy’n ffyddlon, neb sy’n garedig, neb sy’n nabod Duw go iawn. 2Ond mae yna ddigon o regi, twyllo, llofruddio, dwyn a godinebu! Mae yna drais ym mhobman! 3A dyna pam fydd y wlad yn methu a’i phobl yn mynd yn wan. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt a’r adar a’r pysgod yn diflannu!
Yr ARGLWYDD yn cyhuddo’r offeiriaid
4Peidiwch pwyntio’r bys at bobl eraill, a rhoi’r bai arnyn nhw.
Mae fy achos yn eich erbyn chi offeiriaid!
5Byddwch yn baglu yng ngolau dydd,
a bydd eich proffwydi ffals yn baglu gyda chi yn y nos.
Bydd dychryn yn eich dinistrio!
6Mae fy mhobl yn cael eu dinistrio am nad ydyn nhw’n fy nabod i.
Notes for verses 4–61 entry
Text notes
Hosea 4:5 Bydd … dinistrio neu, “a bydda i’n dinistrio’ch mam”. View in passage
Dych chi offeiriaid ddim eisiau fy nabod i,
felly dw i ddim eisiau chi yn offeiriaid.
Dych chi wedi gwrthod dysgeidiaeth eich Duw
felly dw i’n mynd i wrthod eich plant chi.
7Wrth i’r offeiriaid ennill mwy a mwy o gyfoeth
maen nhw’n pechu mwy yn fy erbyn i –
cyfnewid yr Un Gwych am beth gwarthus!
8Maen nhw’n bwyta offrymau dros bechod fy mhobl!
Maen nhw eisiau i’r bobl bechu!
9Ac mae’r bobl yn gwneud yr un fath â’r offeiriaid –
felly bydda i’n eu cosbi nhw i gyd am y drwg;
talu’n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi’i wneud.
10Byddan nhw’n bwyta, ond byth yn cael digon.
Byddan nhw’n cael rhyw, ond ddim yn cael plant.
Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD
a bwrw ati i buteinio.
Yr ARGLWYDD yn condemnio addoli eilunod
11Mae gwin wedi drysu fy mhobl!
12Maen nhw’n troi at ddarn o bren am help,
a disgwyl ateb gan ffon hud rhyw swynwr!
Mae’r obsesiwn am ryw wedi gwneud iddyn nhw golli’r ffordd,
ac maen nhw’n puteinio eu hunain i ffwrdd oddi wrth eu Duw.
13Maen nhw’n aberthu ar gopa’r mynyddoedd,
a llosgi arogldarth ar ben y bryniau –
dan gysgod hyfryd rhyw dderwen,
coeden boplys neu derebinth.
A’r canlyniad? Mae eich merched yn buteiniaid,
a’ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu!
14Ond pam ddylwn i gosbi dy ferched am buteinio,
a’th ferched-yng-nghyfraith am odinebu?
Mae’r dynion yr un fath! – yn ‘addoli’ gyda hwren,
ac yn aberthu gyda phutain teml!
‘Bydd pobl ddwl yn mynd i ddistryw!’
Notes for verse 141 entry
Text notes
Hosea 4:14 putain teml Roedd y merched yma’n gweithio yn y temlau paganaidd lle roedd duwiau ffrwythlondeb yn cael eu haddoli. Roedd pobl yn credu fod cael rhyw gyda’r puteiniaid yma yn sicrhau cynaeafau llwyddiannus. View in passage
15Er dy fod ti, O Israel, yn godinebu,
boed i Jwda osgoi pechu.
Paid mynd i gysegr Gilgal! Paid mynd i fyny i Beth-afen!
Paid tyngu llw, “Fel mae’r ARGLWYDD yn fyw …”
16Mae Israel anufudd yn ystyfnig fel mul!
Cyn bo hir bydd yr ARGLWYDD yn ei gyrru allan i bori,
a bydd fel oen bach ar dir agored!
Notes for verses 15–162 entries
Text notes
Hosea 4:15 Beth-afen Ystyr Beth-afen ydy ‘tŷ pechod’ neu ‘tŷ gwagedd/eilunod’ – cyfeiriad at Bethel, sy’n golygu ‘tŷ Duw’ – gw. 1 Brenhinoedd 12:26-30 (cf. Hosea 5:8; 10:5 a 10:8). View in passage
Hosea 4:16 mul Hebraeg, “heffer”. View in passage
17Mae pobl Effraim yn briod ag eilunod –
gad iddyn nhw fod!
18Ar ôl yfed yn drwm nes bod dim diod ar ôl,
maen nhw’n troi at buteiniaid cwltig
ac yn joio eu mochyndra digywilydd!
19Ond bydd corwynt yn eu cipio,
a bydd eu haberthau’n achos cywilydd go iawn.
Notes for verses 17–191 entry
Text notes
Hosea 4:17 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage