Hosea 14
Troi yn ôl ar yr ARGLWYDD
1O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio. 2Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau’n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti. 3Dydy Asyria ddim yn gallu’n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‘ein duwiau’ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy’n garedig at yr amddifad!”
Notes for verses 1–31 entry
Cross-references
Hosea 14:1 – gw. Deuteronomium 30
Yr ARGLWYDD yn addo maddau
4“Dw i’n mynd i’w gwella o’u gwrthgilio,
a’u caru nhw’n ddiamod.
Dw i’n mynd i droi cefn ar fy llid.
5Bydda i fel gwlith i Israel –
bydd hi’n blodeuo fel saffrwn,
a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus.
Notes for verse 51 entry
Text notes
Hosea 14:5 fel coed Libanus Hebraeg, “fel Libanus”, sy’n cyfeirio, mae’n debyg, at goed cedrwydd enwog Libanus. View in passage
6Bydd ei blagur yn tyfu;
bydd yn hardd fel coeden olewydd,
a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.
7Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod.
Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu;
bydd yn enwog fel gwin Libanus.
8Fydd gan Effraim ddim i’w wneud ag eilunod byth eto!
Bydda i’n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano.
Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd,
bydda i’n rhoi ffrwyth i chi drwy’r flwyddyn.”
Notes for verse 81 entry
Text notes
Hosea 14:8 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage
Her i’r un sy’n darllen y broffwydoliaeth
9Pwy sy’n ddoeth? Bydd e’n deall.
Pwy sy’n gall? Bydd e’n gwybod.
Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn –
bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn,
ond y rhai sy’n gwrthryfela yn baglu.