Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Joel 1

Y pla locustiaid

1Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Joel fab Pethwel.

2Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr;

a phawb arall sy’n byw yn y wlad, daliwch sylw!

Ydych chi wedi gweld y fath beth?

Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o’r blaen?

3Dwedwch wrth eich plant am y peth.

Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw,

a’r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf.

4Mae un haid o locustiaid ar ôl y llall

wedi dinistrio’r cnydau i gyd!

Beth bynnag oedd wedi’i adael ar ôl gan un haid

roedd yr haid nesaf yn ei fwyta!

Notes for verses 2–41 entry

Text notes

  • Joel 1:4 un haid o locustiaid ar ôl y llall Mae’r Hebraeg yn rhestru pedwar math o locust ar adegau gwahanol o’u datblygiad. View in passage

5Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crio!

Chi yfwyr gwin, dechreuwch udo!

Does dim ar ôl! Mae’r gwin melys

wedi’i gymryd oddi arnoch.

6Mae byddin fawr bwerus yn ymosod ar fy ngwlad –

gormod ohonyn nhw i’w cyfrif!

Mae ganddyn nhw ddannedd fel llew

neu lewes yn rhwygo’r ysglyfaeth.

7Maen nhw wedi dinistrio’r coed gwinwydd,

a does dim ar ôl o’r coed ffigys.

Maen nhw wedi rhwygo’r rhisgl i ffwrdd,

a gadael y canghennau’n wynion.

8Wylwch! Udo’n uchel

fel merch ifanc yn galaru mewn sachliain

am fod y dyn roedd hi ar fin ei briodi wedi marw.

9Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i’r deml

nac offrwm o ddiod i’w gyflwyno i’r ARGLWYDD.

Mae’r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu’r ARGLWYDD yn galaru.

10Mae’r caeau’n wag.

Does dim byd yn tyfu ar y tir.

Does dim cnydau ŷd na haidd,

dim grawnwin i roi ei sudd,

a dim olew o’r olewydd.

11Mae’r ffermwyr wedi anobeithio,

a’r rhai sy’n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crio.

Does dim ŷd na haidd yn tyfu;

mae’r cnydau i gyd wedi methu.

12Mae’r gwinwydd wedi crino,

ac mae’r coed olewydd wedi gwywo.

Does dim pomgranadau,

dim datys, a dim afalau.

Mae’r coed ffrwythau i gyd wedi crino;

Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd!

Galw’r bobl i droi yn ôl at Dduw

13Chi’r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru.

Crïwch yn uchel, chi sy’n gwasanaethu wrth yr allor.

Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain,

am fod neb yn dod ag offrwm i’r deml.

Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawn

nac offrwm o ddiod i’w gyflwyno i’r ARGLWYDD.

14Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn ymprydio;

yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.

Dewch â’r arweinwyr a phawb arall at ei gilydd

i deml yr ARGLWYDD eich Duw;

dewch yno i weddïo ar yr ARGLWYDD.

15O na! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos!

Mae’r Duw sy’n rheoli popeth yn dod i’n dinistrio ni!

Bydd yn ddiwrnod ofnadwy!

16Does gynnon ni ddim bwyd o’n blaenau,

a dim byd i ddathlu’n llawen yn nheml Dduw!

Notes for verses 15–161 entry

Text notes

  • Joel 1:15 Mae dydd … agos gw. Eseia 13:6 ac Eseciel 30:2 lle mae cenhedloedd eraill yn cael eu bygwth. Ond yma mae’r geiriau’n cael eu cymhwyso i bobl Israel. View in passage

17Mae’r hadau wedi sychu yn y ddaear.

Mae’r stordai’n wag a’r ysguboriau’n syrthio.

Does dim cnydau i’w rhoi ynddyn nhw!

18Mae’r anifeiliaid yn brefu’n daer.

Mae’r gwartheg yn crwydro mewn dryswch,

am fod dim porfa iddyn nhw.

Mae hyd yn oed y defaid a’r geifr yn dioddef.

Notes for verses 17–181 entry

Text notes

  • Joel 1:17 hadau … ddaear Un ystyr posibl i destun Hebraeg anodd iawn. View in passage

19ARGLWYDD, dw i’n galw arnat ti am help.

Mae’r tir pori fel petai tân wedi’i losgi;

a fflamau wedi difetha’r coed i gyd.

20Mae’r anifeiliaid gwyllt yn brefu arnat ti

am fod pob ffynnon a nant wedi sychu,

a thir pori’r anialwch wedi’i losgi gan dân.

Notes for verses 19–201 entry

Cross-references