Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Hosea 13

Mae hi ar ben ar Israel!

1Pan oedd llwyth Effraim yn siarad

roedd pawb yn crynu –

roedd pawb yn ei barchu yn Israel.

Ond buont ar fai yn addoli Baal,

a dyna oedd eu diwedd.

2Ac maen nhw’n dal i bechu!

Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd;

eilunod cywrain wedi’u gwneud o arian –

ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy’r cwbl!

Mae yna ddywediad amdanyn nhw:

“Mae’r bobl sy’n aberthu

yn cusanu teirw!”

3Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore,

neu’r gwlith sy’n diflannu’n gynnar;

fel us yn cael ei chwythu o’r llawr dyrnu,

neu fwg sy’n dianc drwy ffenest.

4“Ond fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw,

ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.

Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –

Fi ydy’r unig un sy’n achub!

5Fi wnaeth fwydo’ch pobl yn yr anialwch,

mewn tir sych, diffaith.

6Ond wedi’u bwydo, roedden nhw’n fodlon –

mor fodlon nes iddyn nhw droi’n falch,

ac yna fy anghofio i!

Notes for verses 4–62 entries

Text notes

  • Hosea 13:5 tir sych, diffaith Buodd Israel yn crwydro yn yr anialwch am 40 mlynedd ar ôl dianc o’r Aifft. View in passage

Cross-references

7Felly bydda i’n rhuthro arnyn nhw fel llew,

ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.

8Bydda i’n ymosod arnyn nhw

fel arth wedi colli ei chenawon;

a’u llarpio nhw fel llew,

neu anifail gwyllt yn rhwygo’i ysglyfaeth.

9Dw i’n mynd i dy ddinistrio di, O Israel!

Pwy sydd yna i dy helpu di?

10Ble mae dy frenin,

iddo fe dy achub di?

Ble mae’r arweinwyr yn dy drefi?

Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.

11Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig,

a dw i wedi’i gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth!

Notes for verses 9–112 entries

Cross-references

  • Hosea 13:10 – 1 Samuel 8:5 ,1 Samuel 8:6

  • Hosea 13:11 – a 1 Samuel 10:17–24 ; b 1 Samuel 15:26

12Mae’r dyfarniad ar Effraim wedi’i gofnodi,

a’i gosb wedi’i gadw’n saff iddo.

13Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy’n cael babi;

mae’r amser wedi dod, ac mae’r plentyn dwl

yn gwrthod dod allan o’r groth, a byw.

14Ydw i’n mynd i’w hachub nhw o fyd y meirw?

Ydw i’n mynd i’w rhyddhau o afael marwolaeth?

O farwolaeth! Ble mae dy blâu di?

O fedd! Ble mae dy ddinistr di?

Fydda i’n dangos dim trugaredd!”

Notes for verses 12–142 entries

Text notes

  • Hosea 13:12 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage

Cross-references

Bydd Samaria’n cael ei dinistrio

15Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors,

ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain

i fyny o gyfeiriad yr anialwch.

Bydd y dŵr yn sychu, a’r ffynhonnau’n diflannu,

a’r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.

16Bydd Samaria yn cael ei galw i gyfri

am wrthryfela yn erbyn ei Duw.

Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel,

plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,

a’r gwragedd beichiog yn cael eu rhwygo’n agored.

Notes for verses 15–162 entries

Text notes

Cross-references