Hosea 12
1Mae Effraim yn rhedeg ar ôl cysgodion –
mae fel ffŵl sy’n dyheu am wynt poeth y dwyrain!
Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn.
Mae’n gwneud cytundeb gydag Asyria,
ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i’r Aifft!
Notes for verse 11 entry
Text notes
Hosea 12:1 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. View in passage
2Mae’r ARGLWYDD am ddwyn achos yn erbyn Jwda:
bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn;
talu’n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi’i wneud.
3Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth,
a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn!
4Reslo gydag angel heb golli –
crio a pledio arno i’w fendithio.
Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethel
a siarad ag e yno –
5Ie, yr ARGLWYDD! Y Duw hollbwerus!
Yr ARGLWYDD ydy ei enw am byth!
Notes for verses 3–53 entries
Cross-references
Hosea 12:3 – Genesis 25:26
Hosea 12:3, 4 – Genesis 32:24–26
Hosea 12:4 – Genesis 28:10–22
6Rhaid i ti droi’n ôl at Dduw! –
byw bywyd o gariad a chyfiawnder,
a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.
7Fel masnachwyr gyda chlorian sy’n twyllo,
maen nhw wrth eu boddau’n manteisio.
8Ac mae Effraim yn brolio: “Dw i’n gyfoethog!
Dw i wedi gwneud arian mawr!
A does neb yn gallu gweld y twyll;
neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”
9“Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw
ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.
Dw i’n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto,
fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch.
10Dw i wedi siarad drwy’r proffwydi –
mewn gweledigaethau a negeseuon.”
Notes for verses 9–101 entry
Cross-references
Hosea 12:9 – Leviticus 23:42 ,Leviticus 23:43
11Ydy Gilead yn addoli eilunod?
Ydy, a does dim dyfodol i’w phobl!
Ydyn nhw’n aberthu teirw yn Gilgal?
Ydyn, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrig
mewn cae wedi’i aredig!
12Roedd rhaid i Jacob ddianc i wlad Aram –
gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig,
a chadw defaid i dalu amdani.
13Yna defnyddiodd yr ARGLWYDD broffwyd
i arwain Israel allan o’r Aifft,
ac i’w cadw nhw’n fyw yn yr anialwch.
Notes for verses 12–134 entries
Text notes
Hosea 12:12 Jacob Cafodd ei enw ei newid i Israel (gw. Genesis 32:28). View in passage
Hosea 12:12 Aram Gogledd Syria. View in passage
Cross-references
Hosea 12:12 – Genesis 29:1–20
Hosea 12:13 – Exodus 12:50 ,Exodus 12:51
14Ond mae Effraim wedi’i bryfocio i ddigio.
Bydd ei Feistr yn ei ddal yn gyfrifol am y tywallt gwaed,
ac yn gwneud iddo dalu am fod mor ddirmygus.