information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Seffaneia 1

Dydd Barn yr ARGLWYDD

1Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Seffaneia fab Cushi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda.

2“Ysgubaf ymaith yn llwyr bopeth oddi ar wyneb y ddaear,” medd yr ARGLWYDD.

3“Ysgubaf ymaith ddyn ac anifail;

ysgubaf ymaith adar y nefoedd a physgod y môr;

darostyngaf y rhai drygionus,

a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear,” medd yr ARGLWYDD.

4“Estynnaf fy llaw yn erbyn Jwda

ac yn erbyn holl drigolion Jerwsalem;

a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal,

ac enw'r offeiriaid gau,

5a'r rhai sy'n ymgrymu ar bennau'r tai i lu'r nef,

y rhai sy'n ymgrymu ac yn tyngu i'r ARGLWYDD

ond hefyd yn tyngu i Milcom,

6a'r rhai sydd wedi cefnu ar yr ARGLWYDD,

ac nad ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD nac yn ymgynghori ag ef.”

7Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW!

Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;

y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberth

ac wedi cysegru ei wahoddedigion.

8“Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDD

mi gosbaf y swyddogion a'r tŷ brenhinol,

a phawb sy'n gwisgo dillad estron.

9Ar y dydd hwnnw

mi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniog

ac yn llenwi tŷ eu harglwydd â thrais a thwyll.

10“Ar y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,

“clywir gwaedd o Borth y Pysgod,

a chri o Ail Barth y ddinas,

a malurio trystfawr o'r bryniau.

11Gwaeddwch, drigolion y Farchnad.

Oherwydd darfu am yr holl fasnachwyr,

a thorrwyd ymaith yr holl bwyswyr arian.

Notes for verses 10–111 entry

Text notes

12“Yn yr amser hwnnw

chwiliaf Jerwsalem â llusernau,

a chosbaf y rhai sy'n ymbesgi uwch eu gwaddod

ac yn dweud wrthynt eu hunain,

‘Ni wna'r ARGLWYDD na da na drwg.’

13Anrheithir eu cyfoeth

a difethir eu tai;

codant dai, ond ni chânt fyw ynddynt;

plannant winllannoedd, ond ni chânt yfed eu gwin.”

14Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos,

yn agos ac yn dod yn gyflym;

chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD,

ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.

15Dydd dicter yw'r dydd hwnnw,

dydd blinder a gofid,

dydd dinistr a difrod,

dydd tywyllwch a düwch,

dydd cymylau a chaddug,

16dydd utgorn a bloedd rhyfel

yn erbyn y dinasoedd caerog

ac yn erbyn y tyrau uchel.

17“Mi ddof â thrybini ar bobl,

a cherddant fel deillion;

am iddynt bechu yn erbyn yr ARGLWYDD

tywelltir eu gwaed fel llwch

a'u perfedd fel tom,

18ac ni all eu harian na'u haur eu gwaredu.”

Ar ddydd dicter yr ARGLWYDD

ysir yr holl dir â thân ei lid,

oherwydd gwna ddiwedd, ie, yn fuan,

ar holl drigolion y ddaear.