information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Habacuc 3

Gweddi Habacuc

1Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth.

2O ARGLWYDD, clywais y sôn amdanat,

a gwelais dy waith, O ARGLWYDD.

Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd,

datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd,

ac yn dy lid cofia drugaredd.

3Y mae Duw yn dyfod o Teman,

a'r Sanctaidd o Fynydd Paran.

Notes for verses 2–31 entry

Text notes

Sela

Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd,

a'i fawl yn llenwi'r ddaear.

4Y mae ei lewyrch fel y wawr,

a phelydrau'n fflachio o'i law;

ac yno y mae cuddfan ei nerth.

5Â haint allan o'i flaen,

a daw pla allan ar ei ôl.

6Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd;

pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu;

rhwygir y mynyddoedd hen

a siglir y bryniau oesol;

llwybrau oesol sydd ganddo.

7Gwelais bebyll Cusan mewn helbul

a llenni tir Midian yn crynu.

8A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD?

A yw dy lid yn erbyn yr afonydd,

a'th ddicter at y môr?

Pan wyt yn marchogaeth dy feirch

a'th gerbydau i fuddugoliaeth,

9y mae dy fwa wedi ei ddarparu

a'r saethau'n barod i'r llinyn.

Sela

Yr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;

10pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir.

Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen;

tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.

11Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle,

rhag fflachiau dy saethau cyflym,

rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.

12Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear,

ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.

13Ei allan i waredu dy bobl,

i waredu dy eneiniog;

drylli dŷ'r drygionus i'r llawr,

a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig.

Sela

14Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr

a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru,

fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.

15Pan sethri'r môr â'th feirch,

y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.

16Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd,

cryna fy ngwefusau gan y sŵn;

daw pydredd i'm hesgyrn,

a gollwng fy nhraed danaf;

disgwyliaf am i'r dydd blin

wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.

17Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo,

ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth;

er i'r cynhaeaf olew ballu,

ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd;

er i'r praidd ddarfod o'r gorlan,

ac er nad oes gwartheg yn y beudai;

18eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD,

a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.

19Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth;

gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig,

a phâr imi rodio uchelfannau.

I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.