Habacuc 2
Yr ARGLWYDD yn Ateb Eto
1Safaf ar fy nisgwylfa,
a chymryd fy safle ar y tŵr;
syllaf i weld beth a ddywed wrthyf,
a beth fydd ei ateb i'm cwyn.
2Atebodd yr ARGLWYDD fi:
“Ysgrifenna'r weledigaeth,
a gwna hi'n eglur ar lechen,
fel y gellir ei darllen wrth redeg;
3oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser—
daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball.
Yn wir nid oeda; disgwyl amdani,
oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.
4Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid,
ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.”
Gwaeau
5Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal;
y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol,
ac fel marwolaeth yn anniwall,
yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hun
ac yn cynnull ato'r holl bobloedd.
6Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn,
ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud,
“Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo,
ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr.”
7Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn,
ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn,
a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt?
8Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer,
bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di,
o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir
a'r ddinas a'i holl drigolion.
Notes for verses 5–82 entries
Text notes
Habakkuk 2:5 Felly Sgrôl. TM, gwin. View in passage
Habakkuk 2:6 Hebraeg yn ychwanegu Am ba hyd? View in passage
9Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant,
er mwyn gosod ei nyth yn uchel,
a'i waredu ei hun o afael blinder.
10Cynlluniaist warth i'th dŷ dy hun
trwy dorri ymaith bobloedd lawer,
a pheryglaist dy einioes dy hun.
11Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur,
ac etyb trawst o'r gwaith coed.
12Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed,
ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.
13Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd y daw hyn:
fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân,
a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?
14Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD,
fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr.
15Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid,
ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.
16Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant.
Yf dithau nes y byddi'n simsan.
Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD,
a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.
17Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn,
a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo,
o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir
a'r ddinas a'i holl drigolion.
Notes for verses 15–171 entry
Text notes
Habakkuk 2:16 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg, nes y byddi'n ddienwaededig. View in passage
18Pa fudd i'w wneuthurwr yw'r eilun a luniodd?
Nid yw ond delw dawdd a dysgwr celwydd.
Er bod y gwneuthurwr yn ymddiried yn ei waith,
nid yw'n gwneud ond delwau mud.
19Gwae'r sawl a ddywed wrth bren, “Deffro”,
ac wrth garreg fud, “Ymysgwyd”.
Y mae wedi ei amgylchu ag aur ac arian,
ond nid oes dim anadl ynddo.
20Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd;
bydded i'r holl ddaear ymdawelu ger ei fron.
Notes for verses 18–201 entry
Text notes
Habakkuk 2:19 Hebraeg yn ychwanegu Hwn sy'n dysgu. View in passage