Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 73

LLYFR 3

Salm. I Asaff.

1Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn,

a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon.

2Yr oedd fy nhraed bron â baglu,

a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,

3am fy mod yn cenfigennu wrth y trahaus

ac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.

4Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;

y mae eu cyrff yn iach a graenus.

5Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill,

ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.

6Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau,

a thrais yn wisg amdanynt.

7Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,

a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.

8Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar,

yn sôn yn ffroenuchel am ormes.

9Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd,

ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear.

10Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt,

ac ni chânt unrhyw fai ynddynt.

11Dywedant, “Sut y mae Duw'n gwybod?

A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?”

12Edrych, dyma hwy y rhai drygionus—

bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth.

Notes for verses 1–124 entries

Text notes

  • Psalms 73:1 Tebygol. Hebraeg, da yw Duw i Israel. View in passage

  • Psalms 73:4 Tebygol. Hebraeg, ofidiau i'w marwolaeth; y mae eu cyrff yn raenus. View in passage

  • Psalms 73:10 Tebygol. Hebraeg, ei bobl yn dychwelyd yma. View in passage

  • Psalms 73:10 Tebygol. Hebraeg, a sychir digon o ddyfroedd ganddynt. View in passage

13Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn lân,

a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog;

14ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio,

ac fe'm cosbir bob bore.

15Pe buaswn wedi dweud, “Fel hyn y siaradaf”,

buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant.

16Ond pan geisiais ddeall hyn,

yr oedd yn rhy anodd i mi,

17nes imi fynd i gysegr Duw;

yno y gwelais eu diwedd.

18Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig,

ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw.

19Fe ânt i ddinistr ar amrantiad,

fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd.

20Fel breuddwyd ar ôl ymysgwyd, y maent wedi mynd;

wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef.

Notes for verses 13–202 entries

Text notes

21Pan oedd fy nghalon yn chwerw

a'm coluddion wedi eu trywanu,

22yr oeddwn yn ddwl a diddeall,

ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat.

23Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser;

yr wyt yn cydio yn fy neheulaw.

24Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor,

ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.

25Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti?

Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.

26Er i'm calon a'm cnawd ballu,

eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.

27Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt,

a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti.

28Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw;

yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi,

er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.