Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 72

I Solomon.

1O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin,

a'th gyfiawnder i fab y brenin.

2Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn,

a'th rai anghenus yn gywir.

3Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl,

a'r bryniau â chyfiawnder.

4Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl,

a gwaredu'r rhai anghenus,

a dryllio'r gorthrymwr.

5Bydded iddo fyw tra bo haul

a chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.

6Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,

ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.

7Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau,

a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.

Notes for verses 1–73 entries

Text notes

8Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,

ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

9Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen,

ac i'w elynion lyfu'r llwch.

10Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd

ddod ag anrhegion iddo,

ac i frenhinoedd Sheba a Seba

gyflwyno eu teyrnged.

11Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen,

ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.

Notes for verses 8–111 entry

Text notes

  • Psalms 72:9 Tebygol. Hebraeg, Bydded i drigolion yr anialwch. View in passage

12Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa,

a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.

13Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus,

ac yn gwaredu bywyd y tlodion.

14Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm,

ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.

15Hir oes fo iddo,

a rhodder iddo aur o Sheba;

aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad,

a chaffed ei fendithio bob amser.

16Bydded digonedd o ŷd yn y wlad,

yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd;

a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon,

a'i rawn fel gwellt y maes.

17Bydded ei enw'n aros hyd byth,

ac yn para cyhyd â'r haul;

a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddo

ac yn ei alw'n fendigedig.

18Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel;

ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau.

19Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth,

a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.

Amen ac Amen.

Notes for verses 15–192 entries

Text notes

20Diwedd gweddïau Dafydd fab Jesse.