Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 54

I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Mascîl. I Ddafydd, pan ddaeth y Siffiaid at Saul a dweud, “Y mae Dafydd yn cuddio yn ein mysg.”

1O Dduw, gwareda fi trwy dy enw,

a thrwy dy nerth cyfiawnha fi.

2O Dduw, gwrando fy ngweddi,

rho glust i eiriau fy ngenau.

3Oherwydd cododd gwŷr trahaus yn fy erbyn,

ac y mae gwŷr didostur yn ceisio fy mywyd;

nid ydynt yn meddwl am Dduw.

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

  • Psalms 54:3 Felly rhai llawysgrifau a Targwm. TM, cododd estroniaid. View in passage

Sela

4Wele, Duw yw fy nghynorthwywr,

fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd.

5Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion!

Trwy dy wirionedd diddyma hwy.

6Aberthaf yn ewyllysgar i ti;

clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw;

7oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder,

a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion.