Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 53

I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath. Mascîl. I Ddafydd.

1Dywed yr ynfyd yn ei galon,

“Nid oes Duw.”

Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd;

nid oes un a wna ddaioni.

2Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd

ar ddynolryw,

i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth

ac yn ceisio Duw.

3Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,

ac mor llygredig â'i gilydd;

nid oes un a wna ddaioni,

nac oes, dim un.

4Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni

sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,

ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?

5Yno y byddant mewn dychryn mawr,

dychryn na fu ei debyg.

Y mae Duw yn gwasgaru esgyrn yr annuwiol;

daw cywilydd arnynt am i Dduw eu gwrthod.

Notes for verses 1–51 entry

Text notes

  • Psalms 53:5 Tebygol. Cymh. Groeg. Hebraeg, esgyrn dy wersyllwr. View in passage

6O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!

Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,

fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.