Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 52

I'r Cyfarwyddwr: Mascîl. I Ddafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a dweud wrth Saul fod Dafydd wedi dod i dŷ Ahimelech.

1O ŵr grymus, pam yr ymffrosti yn dy ddrygioni

yn erbyn y duwiol yr holl amser?

2Yr wyt yn cynllwyn distryw;

y mae dy dafod fel ellyn miniog,

ti dwyllwr.

3Yr wyt yn caru drygioni'n fwy na daioni,

a chelwydd yn fwy na dweud y gwir.

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

  • Psalms 52:1 Tebygol. Hebraeg, ddrygioni? Y mae trugaredd Duw. View in passage

Sela

4Yr wyt yn caru pob gair difaol

ac iaith dwyllodrus.

5Bydd Duw'n dy dynnu i lawr am byth,

bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o'th babell,

ac yn dy ddadwreiddio o dir y byw.

Sela

6Bydd y cyfiawn yn gweld ac yn ofni,

yn chwerthin am ei ben ac yn dweud,

7“Dyma'r un na wnaeth Dduw yn noddfa,

ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau,

a cheisio noddfa yn ei gyfoeth ei hun.”

8Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd yn nhŷ Dduw;

ymddiriedaf yn ffyddlondeb Duw byth bythoedd.

9Diolchaf iti hyd byth am yr hyn a wnaethost;

cyhoeddaf dy enw—oherwydd da yw—ymysg dy ffyddloniaid.

Notes for verses 6–92 entries

Text notes